Cân 56 (135)
Jehofah, Ein Preswylfa
(Salm 90:1)
1. Ein Iôr, ti fuost yn breswylfa
Dros fil o genedlaethau ’fu.
Cyn geni’r bryniau a’r mynyddoedd
Cadernid oedd d’orseddfainc di.
Jehofah, ti yw’r Hollalluog;
I dragwyddoldeb ti sydd Dduw.
Ac er bod dyn mewn llwch yn darfod
Daeth aberth cariad i’n hadfyw.
2. Mae mil blynyddoedd yn dy olwg,
Fel gwyliadwriaeth yn yr hwyr.
Ond einioes dyn sydd fel glaswelltyn,
Blagura, yna gwywo’n llwyr.
Cawn fyw, os cryf, am wythdeg mlynedd,
A buan mynd mae’n dyddiau ni;
Ond baich a blinder yw ein hanes,
A darfod wnawn ag egwan gri.
3. O dysg ni sut i gyfri’n dyddiau,
I ni gael gorfoleddu’n llawn.
Wrth rodio llwybr dy ddoethineb,
Dy fawr drugaredd profi wnawn.
Jehofah, boed i dy wynepryd
Lewyrchu ar dy weision di.
Rho lwyddiant i holl waith ein dwylo;
Bendithia ein gweithgarwch ni.