Cân 87 (195)
Hwn Yw Dydd Jehofah
(Salm 118:24)
1. Jehofah, daeth dy ddydd. Brenhiniaeth byth it sydd.
Yn Seion gosod wnest Brif Gonglfaen.
Cydganwn bêr fawlgan, llawenydd ddaeth i’n rhan;
Teyrnas Jehofah sydd ar gadarn, deg sylfaen.
(Cytgan)
2. Crist sydd mewn nerthol rym; daw Armagedon llym.
Ymaith â Satan a’i drefn dros y byd.
Traethwch yn ddewr y Gair dros wyneb yr holl ddae’r.
Ar lwyr ufudd-dod boed i’r addfwyn roi eu bryd.
(Cytgan)
3. Mab Duw yw’n Brenin nawr; rhyfeddol yw a mawr.
Yn enw Duw daw, derbyniol ei iau.
Agorwch nawr y pyrth! Offrymwch lân ebyrth;
Erfyniwch inni’n fythol yng ngwaith Duw barhau.
(CYTGAN)
Beth ddeui, Deyrnas deg Jehofah?
Gwirionedd pur, cyfiawnder Duw.
Beth arall, Deyrnas deg Jehofah?
Bywyd tragwyddol hapus gwiw.
Canwch glod ei Benarglwyddiaeth.
Ffyddlon a llawn cariad yw.