LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • km 10/12 t. 7
  • Pum Ffordd i Ddechrau Astudiaeth Feiblaidd

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Pum Ffordd i Ddechrau Astudiaeth Feiblaidd
  • Ein Gweinidogaeth—2012
  • Erthyglau Tebyg
  • Sut i Helpu Myfyriwr y Beibl i Gyrraedd Bedydd—Rhan Un
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2020
  • Fel Cynulleidfa, Helpwch Fyfyrwyr y Beibl i Gyrraedd Bedydd
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2021
  • Ewch, Gwnewch Ddisgyblion
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2020
  • Sut i Helpu Myfyriwr y Beibl i Gyrraedd Bedydd—Rhan Dau
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2020
Gweld Mwy
Ein Gweinidogaeth—2012
km 10/12 t. 7

Pum Ffordd i Ddechrau Astudiaeth Feiblaidd

1. Os yw hi’n anodd dechrau astudiaethau Beiblaidd yn ein tiriogaeth ni, beth dylen ni ei wneud, a pham?

1 Ydych chi wedi ei chael hi’n anodd dechrau astudiaeth Feiblaidd? Peidiwch â digalonni. Mae Jehofah yn bendithio’r rhai sy’n dal ati i wneud ei ewyllys. (Gal. 6:9) Dyma bum syniad i’ch helpu.

2. Sut gallwn ni fynd ati’n uniongyrchol i gynnig astudio’r Beibl?

2 Yn Uniongyrchol: Mae llawer o bobl yn gyfarwydd â’r Watchtower a’r Awake!, ond efallai nad ydyn nhw’n gwybod bod modd astudio’r Beibl gyda ni. Wrth fynd o dŷ i dŷ, pam na wnewch chi gynnig astudio’r Beibl? Wrth siarad â rhai sydd wedi dangos diddordeb, gofynnwch iddyn nhw a hoffen nhw astudio’r Beibl. Os ydyn nhw’n gwrthod, fe allwch chi barhau i alw gyda deunydd darllen a cheisio meithrin eu diddordeb. Roedd un brawd wedi galw ar bâr priod am flynyddoedd gyda’r cylchgronau. Ar ôl gadael y rhifynnau diweddaraf, roedd ar fin ymadael pan ddigwyddodd iddo ofyn: “Hoffech chi astudio’r Beibl?” Er syndod mawr iddo, fe gytunon nhw ac erbyn hyn maen nhw wedi eu bedyddio.

3. A ddylen ni ei gymryd yn ganiataol fod pobl sy’n dod i’r cyfarfodydd eisoes yn astudio gyda rhywun? Eglurwch.

3 Pobl Sy’n Dod i’r Cyfarfodydd: Peidiwch â’i gymryd yn ganiataol fod y rhai sy’n dod i’r cyfarfodydd eisoes yn astudio’r Beibl. Dywedodd un brawd: “O’r astudiaethau rydw i wedi eu cael, dechreuais fwy na hanner ohonyn nhw drwy siarad â rhywun yn y cyfarfodydd.” Penderfynodd un chwaer siarad â gwraig swil yr oedd ei merched yn aelodau o’r gynulleidfa. Roedd hi wedi mynychu cyfarfodydd am 15 mlynedd, gan gyrraedd wrth i’r cyfarfod ddechrau a gadael yn syth ar ôl iddo orffen. Ond cytunodd hi i astudio’r Beibl, ac yn y pen draw, fe ddaeth i mewn i’r gwir. Ysgrifenna’r chwaer: “Yr unig beth dw i’n ei ddifaru yw fy mod i wedi aros 15 mlynedd cyn gofyn iddi astudio!”

4. Sut gallwn ni ddechrau astudiaeth drwy ofyn i bobl eraill?

4 Myfyrwyr a Chyhoeddwyr Eraill: Mae un chwaer yn mynd gydag eraill sydd gan astudiaethau. Gyda chaniatâd y cyhoeddwr, mae hi’n gofyn i’r person a ydyn nhw’n adnabod rhywun arall a fyddai’n hoffi astudio. Wrth gynnig y llyfr Beibl Ddysgu ar un o’ch galwadau, gallwch chi ofyn, “Ydych chi’n ’nabod rhywun a fyddai’n hoffi cael copi hefyd?” Weithiau bydd amgylchiadau yn golygu bod cyhoeddwyr ac arloeswyr yn cyfarfod rhywun â diddordeb ond yn methu cynnal astudiaeth. Felly, rhowch wybod i bobl eraill eich bod chi ar gael.

5. Pam gall fod yn dda inni gynnig astudio gyda’r rhai sy’n briod ag aelodau’r gynulleidfa?

5 Perthnasau Di-gred: A oes cyhoeddwyr yn eich cynulleidfa nad yw eu partneriaid yn y gwir? Weithiau, mae rhai sy’n briod â Christnogion yn gyndyn i siarad â nhw am y Beibl, ond bydden nhw’n fodlon astudio gyda rhywun y tu allan i’r teulu. Fel arfer, mae’n well siarad â’r cymar sydd yn y gwir yn gyntaf er mwyn gwybod beth yw’r fordd orau o fynd ati.

6. Pa mor bwysig yw gweddi wrth geisio dechrau astudiaeth Feiblaidd?

6 Gweddïo: Peidiwch ag anghofio pa mor rymus yw gweddi. (Iago 5:16) Mae Jehofah yn addo y bydd yn gwrando pan fyddwn yn gofyn yn unol â’i ewyllys. (1 Ioan 5:14) Roedd gan un brawd amserlen brysur iawn, ond fe weddïodd am astudiaeth. Roedd ei wraig yn poeni nad oedd digon o amser ganddo i ofalu am fyfyriwr, yn enwedig un gyda llawer o broblemau. Ond fe weddïodd hithau hefyd am astudiaeth i’w gŵr, gan sôn wrth Jehofah am ei phryderon. Cafwyd ateb i’w gweddïau ryw bythefnos wedyn, pan ddaeth un o’r arloeswyr at y brawd a gofyn iddo astudio gyda rhywun yr oedd yntau wedi ei gyfarfod. Ysgrifenna’r wraig: “Byddwn i’n dweud wrth y rhai sy’n poeni na fedran nhw ymdopi ag astudiaeth: Byddwch yn benodol yn eich gweddïau, a daliwch ati i weddïo am y peth. Mae wedi dod â mwy o lawenydd inni nag y gallwn ei ddychmygu.” Drwy ddal ati, efallai byddwch chi hefyd yn medru astudio’r Beibl gyda rhywun a chael y pleser o’i helpu i gael hyd i’r “ffordd sy’n arwain i fywyd.”—Math. 7:13, 14.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu