LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • km 10/12 tt. 5-6
  • Manteisio ar Eich Grŵp Gweinidogaeth

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Manteisio ar Eich Grŵp Gweinidogaeth
  • Ein Gweinidogaeth—2012
  • Erthyglau Tebyg
  • Cyfarfodydd Gweinidogaeth Sy’n Cyflawni eu Pwrpas
    Ein Gweinidogaeth—2015
Ein Gweinidogaeth—2012
km 10/12 tt. 5-6

Manteisio ar Eich Grŵp Gweinidogaeth

1. Pa fanteision yr hen grwpiau astudiaeth llyfr, sy’n dal ar gael inni drwy ein grwpiau gweinidogaeth?

1 Ydych chi’n teimlo colled ar ôl yr hen grwpiau ar gyfer Astudiaeth Llyfr y Gynulleidfa? Roedd y grwpiau’n fach a’r awyrgylch yn hamddenol. Roedd hi’n hawdd gwneud ffrindiau a oedd yn cadw ein ffydd yn gryf. (Diar. 18:24) Braf hefyd oedd sylw personol arolygwr y grŵp a oedd yn ein hadnabod yn dda. (Diar. 27:23; 1 Pedr 5:2, 3) Mae’r manteision hyn yn dal ar gael inni drwy ein grwpiau gweinidogaeth.

2. Sut gallwn ni gymryd y cam cyntaf i wneud ffrindiau yn ein grŵp gweinidogaeth a fydd yn gefn ysbrydol inni?

2 Cymryd y Cam Cyntaf: Fel arfer, mae grwpiau gweinidogaeth tua’r un maint â’r hen grwpiau ar gyfer yr astudiaeth llyfr. Trwy “gydymdrechu yn unfryd” ag eraill, fe allwn ni ddod yn ffrindiau da. (Phil. 1:27) Ydych chi wedi gweithio gyda gwahanol rai yn eich grŵp chi? Oes modd ichi estyn allan yn hyn o beth? (2 Cor. 6:13) Ar ben hynny, efallai medrwn ni wahodd rhywun yn ein grŵp i ddod draw ar gyfer Addoliad Teuluol, neu ar gyfer pryd o fwyd o dro i dro. Mewn rhai cynulleidfaoedd, mae’r grwpiau gweinidogaeth yn cymryd tro i wneud pryd o fwyd i’r siaradwr gwadd. Bydd y grŵp yn mwynhau pryd o fwyd gyda’i gilydd, hyd yn oed os nad yw’r siaradwr yn medru aros.

3. Pa gyfle sydd gennyn ni i gael ein bugeilio yn ein grŵp gweinidogaeth?

3 Er mai dim ond dwywaith yr wythnos rydyn ni’n cyfarfod fel cynulleidfa bellach, nid yw hynny’n golygu bod y cyhoeddwyr yn cael llai o ofal bugeiliol. Penodir arolygwyr ym mhob grŵp i galonogi pob aelod a’i hyfforddi yn y weinidogaeth. Os nad yw arolygwr eich grŵp eisoes wedi trefnu i weithio gyda chi yn y weinidogaeth, pam na wnewch chi ofyn iddo? Un penwythnos y mis, mae’r arolygwr gwasanaeth yn gweithio gyda grŵp gwahanol. Mewn cynulleidfaoedd llai gyda dim ond ychydig o grwpiau gweinidogaeth, efallai bydd yr arolygwr gwasanaeth yn trefnu i ymweld â phob grŵp ddwywaith y flwyddyn. Ydych chi’n trefnu i fod allan yn y weinidogaeth pryd y mae’n ymweld â’ch grŵp chi?

4. (a) Sut mae cyfarfodydd ar gyfer y weinidogaeth yn cael eu trefnu? (b) Pam dylen ni ystyried agor ein cartrefi ni er mwyn cynnal cyfarfodydd ar gyfer y weinidogaeth?

4 Daw nifer o fanteision o gyfarfod ar gyfer y weinidogaeth fel grwpiau ar wahân dros y penwythnosau. Bydd cynnal cyfarfodydd mewn nifer o lefydd tua’r un pryd yn ei gwneud hi’n haws i’r cyhoeddwyr gyrraedd y diriogaeth. Gellir trefnu’r diriogaeth yn hwylus a mynd yno yn syth. Bydd yn haws hefyd i’r arolygwr roi sylw i aelodau ei grŵp. Sut bynnag, mewn rhai amgylchiadau, peth doeth fyddai cyfuno dau grŵp neu fwy. Os yw’r gynulleidfa gyfan yn cyfarfod ar gyfer y weinidogaeth ar ddydd Sadwrn cyntaf y mis, neu ar ôl Astudiaeth y Watchtower, gall fod yn syniad da i’r cyhoeddwyr eistedd yn eu grwpiau ac i arolygwr pob grŵp gael ychydig o funudau i drefnu ei grŵp ei hun, a hynny cyn y gofynnir bendith ar y weinidogaeth.—Gweler y blwch “Allwch Chi Agor Eich Cartref?”

5. Er bod y grwpiau astudiaeth llyfr wedi dod i ben, o beth gallwn ni fod yn sicr?

5 Er bod y grwpiau astudiaeth llyfr wedi dod i ben, mae Jehofah yn dal i roi popeth sydd ei angen arnon ni, er mwyn inni wneud ei ewyllys. (Heb. 13:20, 21) Dan ofal Jehofah, nid oes eisiau dim arnon ni. (Salm 23:1) Mae llawer o fendithion ar gael inni drwy ein grwpiau gweinidogaeth. Os ydyn ni’n cymryd y cam cyntaf drwy ‘hau’n hael,’ byddwn ni hefyd yn ‘medi’n hael.’—2 Cor. 9:6.

[Blwch ar dudalen 6]

Allwch Chi Agor Eich Cartref?

Mae rhai cynulleidfaoedd yn gorfod cyfuno grwpiau gweinidogaeth ar y penwythnos oherwydd nad oes digon o gartrefi ar gael. Mae cyfarfodydd ar gyfer y weinidogaeth yn rhan o weithgareddau’r gynulleidfa, felly, braint yw cynnal y cyfarfodydd hyn yn ein cartrefi. A allwch chi agor eich cartref chi? Peidiwch â meddwl nad yw’ch cartref yn ddigon da. Bydd yr henuriaid yn ystyried lleoliad eich tŷ yn ogystal â’r un ffactorau a fu’n berthnasol wrth ddewis cartrefi ar gyfer y grwpiau astudiaeth llyfr. Os hoffech chi gynnig eich tŷ chi, rhowch wybod i arolygwr eich grŵp.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu