Cân 37 (82)
Byddin Fawr Ywˈr Gwragedd
(Salm 68:11)
1. Jehofah ei hun a ddywedodd
Am wragedd, y ffyddlonaf sy.
Fel byddin ânt i dystiolaethu,
I’r ddynolryw traethant yn hy.
Yn brysur ofalus gweithredant
Er mawr les eu tylwyth i gyd.
Eu hamser yn ddoeth fe gysegrant
I dystio gan weithio ynghyd.
2. Gweddïwn ar Dduw i fendithio
Yn helaeth ein chwiorydd pur.
Eu canmol mae’r eang frawdoliaeth;
Pregethu a wnânt drwy’r holl dir.
Ymhlith eu haelodau teyrngalon
Mae gweddwon a ffyddlonaf rai.
I’r gwaith tystio rhoddant flaenoriaeth;
Ymdrechant i ddyfalbarhau.
3. Dyledus ystyriaeth dderbyniant,
Eu cyfrifoldebau sy’n llawn.
I waith y cynhaeaf cyfrannant
Eu hamser, eu rhinwedd, a’u dawn.
Rhyfeddol yw’r fyddin hyfrydaidd,
Fe haedda bob cymorth a chlod.
Rhown ofal i’n chwiorydd pefriol,
Cyflawni gwaith Duw yw eu nod.