Cân 5 (10)
Byddwch Gadarn, Diysgog!
1. Diwedd y drefn sydd yn prysur nawr ddod,
Doeth fo’n gwasanaeth; glân, selog fo’n nod.
Cadarn, diysgog, ein hymddwyn bob dydd,
Beunydd gweithredwn ein ffydd.
(Cytgan)
2. Hudo a denu wna pleserau trefn
Satanaidd fyd, a’i anfoesol anhrefn.
Byddwn yn gadarn a phwyllog, uniawn.
Mewn ffydd amddiffyn Duw gawn.
(Cytgan)
3. Teyrngar wasanaeth nawr rhown i’r gwir Dduw.
Cadwn ein golwg ar newydd fyd gwiw.
Beunydd gafaelwn yng Ngair newydd da.
Buan daw dydd ireidd-dra.
(CYTGAN)
Sefyll yn gadarn a wnawn; Pleserau’r byd fe adawn.
Dysgwn wirionedd Duw a’i ffordd uniondeb llawn.