Cân 27 (57)
Pobl Lawen Jehofah
(Salm 89:15)
1. Gwyn eu byd y rhai sydd yn llawn gorfoledd cân,
Sy’n byw’r gwirionedd glân, bendithion ddaw i’w rhan.
Cans rhodio wnânt am byth yng ngoleuni wyneb Duw;
Mawr lawenydd gânt wrthynt ddysgu cyd-fyw.
(Cytgan)
2. Satan a’i holl lengoedd sy’n pwyso arnom nawr.
Dros wyneb daear lawr, ein clod gaiff Duw bob awr.
Mae ganddo noddfa gadarn i leddfu’r addfwyn rai;
Tarian yw i bawb sydd yn dyfalbarhau.
(Cytgan)
3. Er bod rhai yn cefnu, ymdrechu’n fwy wnawn ni.
Yn wyliadwrus lu gweddiwn ar Dduw’n hy,
Cans cadw ein huniondeb trwy brawf mor bwysig yw;
Ymdrech wnawn bob dydd i fodloni ein Duw.
(CYTGAN)
O Dduw, dy gariad sy’n ffyddlon barhau,
Caiff pawb sy’n caru d’enw mawr eu bywhau.
Trwy dy Air a’th ysbryd gwirionedd a gânt,
Gweithredoedd ffydd a chariad yna wnânt.