Cân 66 (155)
“Derbyniwch Eich Gilydd”!
1. Derbyniwch nawr eich gilydd fel derbyniodd Iesu chi!
Bu farw Crist yn ufudd er mwyn prynu’ch brodyr cu.
Mawr angen sydd i’r aeddfed rai roi cymorth i’r rhai gwan.
Rhoi iddynt help drwy weithred dda, feunyddiol fydd ein rhan.
Cofnodwyd yr Ysgrythur gynt i’n dysgu er ein lles,
A thrwyddo daw mawr gysur, ac at Dduw cawn ddod yn nes.
Am hynny ceisio plesio wnawn cymdogion yn y ffydd;
Ac i’n brawd rhown fawr groeso, talu sylw rhaid i’w fudd.
2. Jehofah Dduw sy’n casglu nawr heddychlon hil di-gledd.
Ei Fab sydd yn teyrnasu ac i’r ddae’r fe ddaw gwir hedd.
Dônt o bob llwyth ac ieithoedd byd, cenhedloedd dynolryw;
Cysegru eu galluoedd wnânt i wneud ewyllys Duw.
Estynnwn cynnes groeso i chi oll sydd yma’n awr,
Fe ogoneddwn Dduw o fri â’ch cwmni teg mwynfawr.
Ei efelychu beunydd wnawn, ein braint yw ei fawrhau.
 chalon llawn llawenydd boed in bythol ufuddhau.
3. Anogwn lwythau’r ddae’r i foli Jah ein Brenin Mawr;
Â’i bobol llawenychu, a’i glodfori fel côr, nawr.
Cyhoeddi wnawn yn ddiwyd, mewn cartrefi ac ar stryd,
Newyddion da a hyfryd Duw Jehofah i’r holl fyd.
I foli’r Duw Goruchaf dyma’r cyfle gore ddaw.
Fe ddaeth y dyddiau d’wethaf, dial Duw sydd nawr gerllaw.
Dangoswn gariad brawdol, ffyddlon fôm i’r geirwir Dduw;
Rhown groeso ichwi’n unol, hyn gorchymyn dwyfol yw.