Cân 98 (220)
Ein Paradwys: Presennol a Dyfodol
1. Am ein paradwys lân ysbrydol
Clod i ti Jehofah Dduw.
Wrth gydgyfarfod cawn ddoethineb
Ac arweiniad sut i fyw.
Yn llawen diolchwn
Am fendithion hael;
Braint yw dy was’naethu
Yn ffyddlon ddi-ffael!
Wrth garu Duw a’n holl gymdogion
Undod pur a llon fwynhawn.
Cryfhau wna hyn ein gweinidogaeth
A pharhau yn deyrngar wnawn!
2. Rhoddaist i Grist hawl llywodraethu
Ac i farnu’r ddynolryw;
’Nawr ar ddeheulaw dy Fawrhydi
Brenin teilwng, cyfiawn yw.
D’oleuni Jehofah
Ddaw yn ei iawn bryd;
Dy fwriad yw casglu’r
Ffyddloniaid ynghyd.
Boed ein hymddygiad yn dderbyniol
Wrth bregethu’r newydd da,
Gan ddysgu’r defaid rai addfwynaf!
Cynnydd hyn a sicirha.
3. Ar ôl i ryfel brwydr dydd mawr
Duw Jehofah ddod i ben,
Bwrir drwg Satan a’i gythreuliaid
I’r pwll garchar am eu sen.
Dy holl weision ffyddlon
O’r beddau’n fyw dônt,
Ac mewn gwerthfawrogiad
Gwasanaeth llon rônt.
Ar ddae’r baradwys daw perffeithrwydd;
Crist fel archoffeiriad mawr
Fydd yn gweinyddu, i’r ddynoliaeth,
Les ei aberth drud, gwerthfawr.