Cân 97 (217)
Ennill Cyfeillgarwch Jehofah
(Salm 15:1, 2)
1. Pwy gaiff, Jehofah Dduw, dy gyfeillgarwch di,
A’i wahodd i dy babell deg i drigo gyda thi?
Yr un yn uniawn sydd, Heb anwireddau cudd,
Sy’n cadw’r llwybyr cul drwy feithrin cadarn, didwyll ffydd.
I bwy, Jehofah Dduw, rwyt ti yn ffrind cyflawn?
Pwy gaiff fyth yn dy fynydd sanctaidd fwynhau bywyd llawn?
Yr un sy’n dweud y gwir, Â chalon bur, Nid i’w gymydog yn sur.
(Cytgan)
2. Pwy gaiff, Jehofah Dduw, breswylio gyda thi?
Pwy fydd dy ffrind am byth, â’i drigfan yn dy babell di?
Y ffyddlon sy’n parhau Yn lân ei wefusau,
Yr un yn gwneud cyfiawnder ac yn llawen ufuddhau.
Carem, Jehofah Dduw, dy gael yn gyfaill in.
Dy Air mor sanctaidd sy’n ein dysgu am rinweddau prin.
Ar wella rhown ein bryd; A’th gael o hyd Yn ffrind, fydd ein huchelfryd.
(Cytgan)
3. Â thi Jehofah Dduw am byth preswylio wnawn.
Dy wir dangnefedd sydd goruwch pob deall a fwynhawn.
Crist Iesu roes in nod, Addoliad rown i’th glod.
At grefydd bur yn awr mae tyrfa fawr ddi-ri’ yn dod.
Dy gyfeillgarwch di i ni sydd fawr ei werth.
Derbynia’n teg wasanaeth llawn, Jehofah Dduw ein nerth.
D’addoli wnawn mewn cân Ar fynydd glân, Addoliad cysegr-lân.
(CYTGAN)
Jehofah rho i ni dy gyfeillgarwch cu.