Cân 61
Y Math o Berson y Dylwn Fod
Fersiwn Printiedig
1. Rhoddaist im fy mywyd, Jehofa fy Nuw,
Ni fedraf ond diolch; diau ’nyled mawr yw.
Yn llewyrch dy Air gweld a wnaf yn fy nghalon
Ddymuno cyflawni dy hawddgar ofynion.
I ti y cysegrais fy mywyd a’m nerth,
Cei gennyf fy ngorau, rhoi a wnaf rodd o werth.
F’adduned a dalaf, d’ewyllys a wnaf,
A rhyngu dy fodd yn llawen a gaf.
2. Sanctaidd ymarweddiad a ddyry it glod;
Ymhell rhag anwiredd, O cyfeiria fy nod.
Hyfrydwch i ti yw teyrngarwch dy weision;
Derbyniol boed gennyt fyfyrdod gwas ffyddlon.
(Gweler hefyd Salm 18:25; 116:12; 119:37; Diar. 11:20.)