CÂN 37
Gwasanaethu Jehofa â’th Holl Enaid
Fersiwn Printiedig
1. O Jehofa, Frenin, Arglwydd,
Rwyf yn dy garu. Ti yw fy Nuw.
Ti sy’n deilwng o’m hymroddiad.
Talaf f’adduned. Byddaf yn driw.
Â’m holl galon caraf dy gyfraith,
Â’m holl enaid canaf dy fawl.
(CYTGAN)
O Jehofa, ti sy’n deilwng;
I ti ymrof yn llwyr ac yn llawn.
2. Mae’th weithredoedd yn dy ganmol,
Canu dy glod mae’r sêr, lloer, a’r haul.
Boed i minnau fod mor gyson,
Boed i’m ffyddlondeb bara’n ddi-drai.
Â’m holl nerth moliannaf dy enw,
Â’m holl feddwl gwnaf beth sy’n iawn.
(CYTGAN)
O Jehofa, ti sy’n deilwng;
I ti ymrof yn llwyr ac yn llawn.
(Gweler hefyd Deut. 6:15; Salm 40:8; 113:1-3; Preg. 5:4; Ioan 4:34.)