Cân 56
“O Dduw, Gwrando Fy Ngweddi”
Fersiwn Printiedig
(Salm 54)
1. Gwrando, fy Nhad, ddwys eiriau fy nghân;
Clust rho i’m cri o’th gysegr lân.
Boed dyrchafedig d’enw clodwiw.
(CYTGAN)
Raslon Jehofa, fy ngweddi clyw.
2. Ar fawr Waredwr galw a wnaf;
Ym marnau cyfiawn Iôr llawenhaf.
Yn dy drugaredd rhoist im fy myw.
(CYTGAN)
Raslon Jehofa, fy ngweddi clyw.
3. I ti, fy Nuw, aberthaf fy mri;
Rhyngu dy fodd yw’r nod puraf sy’!
Ar fyfyr calon f’Arglwydd erglyw.
(CYTGAN)
Raslon Jehofa, fy ngweddi clyw.
(Gweler hefyd Ex. 22:27; Salm 106:4; Iago 5:11.)