Cân 93
“Llewyrched Eich Goleuni”
Fersiwn Printiedig
1. Cofiwn eiriau Iesu, ‘Chwi yw golau’r byd.’
Awn â’r llewyrch hwnnw I bob maes a stryd.
Doeth yw’r Ysgrythurau, Llusern yw Gair Duw;
Adlewyrchu’r golau wnawn Yn ein moes a’n byw.
2. Llewyrch teg y Deyrnas Dwys gysuro mae;
Clywed wna’r galarus Eiriau sy’n cryfhau.
Tardd o’r Gair oleuni, Cyfarwyddyd gawn.
Boed ein sgwrsio’n rasol, mwyn, Byddwn gariadlawn.
3. Gweithred sy’n ddaionus Codi calon wna;
Llewyrch rydd i’n tystio, ‘Perl’ a hir barha.
Boed in adlewyrchu Teg oleuni Duw.
Addurn fo ein moes bob dydd I’r ddysgeidiaeth wiw.
(Gweler hefyd Salm 119:130; Math. 5:14, 15, 45; Col. 4:6.)