Cân 84
“Rwy’n Mynnu”
Fersiwn Printiedig
(Luc 5:13)
1. Cariad Crist amlygwyd i ni,
Gadawodd breswylfa deg fry;
Daeth i’r ddae’r ar ffurf dyn,
Gair Duw ar ei fin,
A thraethu am Deyrnas o fri.
Lleddfu wnaeth bob gwaeledd a briw,
Cysurodd y drist ddynolryw.
Gwelwn batrwm ei ddull o deyrnasu
Pan dd’wedodd wrth glaf: “Rwy’n mynnu.”
2. Goruchwyliwr ffyddlon a chall
Gwas’nae thu mae’n ddoeth a di-ball.
Cydweithredu a wnawn,
Defnyddiwn ein dawn;
Yr addfwyn gânt ymborth ddi-wall.
I’r anghenus sylw a rown,
Di-oed â chynhaliaeth y down.
Ac os gofyn fydd inni eu helpu,
Atebwn yn glou: “Rwy’n mynnu.”
(Gweler hefyd Ioan 18:37; Eff. 3:19; Phil. 2:7.)