Cân 116
Ar Gynnydd Mae’r Llewyrch
(Diarhebion 4:18)
1. I’r gaeth greadigaeth y gobaith oedd Crist,
Amdano dyheai’r proffwydi.
Datguddiwyd trwy’r ysbryd y deuai i’r byd
Feseia, cyfryngwr gwaredu.
Yr amser a ddaeth, fe deyrnasa Mab Duw,
Arwyddion o hyn leinw’r byd.
Angylion y nef llwyr ryfeddu a wnânt,
Ar Air Duw rhoddant hwythau eu bryd!
(CYTGAN)
Cynyddu mae llewyrch ein llwybr;
Y wawrddydd i’w hanterth a ddaeth.
Datgelu mae Duw wirioneddau
Wna’n sicr ein cam ar y daith.
2. Penodwyd gwas doeth, goruchwyliwr, gan Grist;
Dosbarthu wna ymborth i’r teulu.
Ymledu wna llewyrch gwirionedd ein Duw,
Grymusach fydd llais ein llefaru.
Yn sicr ein cam, goleuedig ein trem,
Fe rodiwn yn haul canol dydd.
Jehofa, Ffynhonnell geirwiredd y Gair,
Dealltwriaeth o’i fwriad a rydd.
(CYTGAN)
Cynyddu mae llewyrch ein llwybr;
Y wawrddydd i’w hanterth a ddaeth.
Datgelu mae Duw wirioneddau
Wna’n sicr ein cam ar y daith.
(Gweler hefyd Rhuf. 8:22; 1 Cor. 2:10; 1 Pedr 1:12.)