Cân 12
Addewid Bywyd Tragwyddol
(Salm 37:29)
1. Gŵyr Duw Jehofa’n dymuniant,
Dae’r yn Baradwys a ddaw:
‘’R addfwyn, y tir etifeddant.’
Hawddgar fyd sydd gerllaw.
(CYTGAN)
Gair Duw fydd yn llwyddo,
Ni all dim ei rwystro—
Gwir fywyd mae’n addo.
Llw wnaed sy’n ddi-ffael.
2. Daear â hedd fydd goronog,
Torrir cadwyni’r hen wae;
Profi a wnawn, medd Jehofa,
Lawnder bywyd heb drai.
(CYTGAN)
Gair Duw fydd yn llwyddo,
Ni all dim ei rwystro—
Gwir fywyd mae’n addo.
Llw wnaed sy’n ddi-ffael.
3. Buan y daw’r atgyfodiad,
Cwmni’n hanwyliaid fwynhawn.
Galar a phoen ni ddônt eto—
Molwn Dduw; llawenhawn.
(CYTGAN)
Gair Duw fydd yn llwyddo,
Ni all dim ei rwystro—
Gwir fywyd mae’n addo.
Llw wnaed sy’n ddi-ffael.
(Gweler hefyd Esei. 25:8; Luc 23:43; Ioan 11:25; Dat. 21:4.)