Cân 35
Diolch am Hirymaros Dwyfol
Fersiwn Printiedig
1. Anfeidrol Iôr, Penarglwydd o fri,
Glodfawr Jehofa, gwrando ni.
Dros wyneb dae’r ymleda trais,
Holl feddwl dyn sy’n anfoddhaus.
Pob un edifar, mynegi wna
Ddiolch am hir amynedd Duw Jah.
Oedi ni wnei pan ddaw dy awr,
Rhown ein hymddiried yn d’enw mawr.
2. Megis un diwrnod it, ddwyfol Un,
Yw mil blynyddoedd amser dyn.
Agos a ddaeth d’arswydus ddydd,
Datgelu wnei bob llechfa gudd.
Er bod drygioni’n achos tristáu,
Hyfryd yw gweld rhai’n edifarhau.
Dae’r adferedig sydd gerllaw,
Clod gaiff dy enw byth, yn ddi-daw.
(Gweler hefyd Luc 15:7; 2 Pedr 3:8, 9.)