LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • km 3/14 t. 2
  • A Fyddech Chi’n Dal ar Eich Cyfle?

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • A Fyddech Chi’n Dal ar Eich Cyfle?
  • Ein Gweinidogaeth—2014
  • Erthyglau Tebyg
  • “Gwnewch Hyn”
    Ein Gweinidogaeth—2012
  • “Mae’r Cariad Sydd Gan y Crist yn Ein Cymell Ni”
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2023
  • “Byddwch yn Ddiolchgar”
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2019
  • Mae Jehofa yn Bendithio Ein Hymdrechion i Fynd i’r Goffadwriaeth
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2023
Gweld Mwy
Ein Gweinidogaeth—2014
km 3/14 t. 2

A Fyddech Chi’n Dal ar Eich Cyfle?

Bydd y Goffadwriaeth yn Gyfle Inni Ddangos Ein Gwerthfawrogiad

1. Pa gyfle arbennig y mae’r Goffadwriaeth yn ei roi inni?

1 Bydd y Goffadwriaeth ar Ebrill 14 yn rhoi cyfle unigryw inni feithrin a dangos gwerthfawrogiad am ddaioni Jehofah. Mae’r hanes yn Luc 17:11-18 yn dangos sut mae Jehofah a Iesu yn teimlo am bwysigrwydd gwerthfawrogiad. Yn anffodus, o’r deg dyn gwahanglwyfus, cymerodd dim ond un y cyfle i ddweud diolch am gael eu hiacháu. Yn y dyfodol bydd y pridwerth, rhodd gariadus Jehofah, yn ei gwneud hi’n bosibl i bobl gael eu hiacháu o bob afiechyd. Hefyd, drwy’r pridwerth mae bywyd tragwyddol yn bosibl! Yn sicr, fe fyddwn ni’n diolch i Jehofah bob dydd am y bendithion hynny. Sut y gallwn ni ddangos ein gwerthfawrogiad yn ystod yr wythnosau nesaf?

2. Sut gallwn ni feithrin gwerthfawrogiad am y pridwerth?

2 Meithrin Gwerthfawrogiad: Mae gwerthfawrogiad yn cychwyn yn ein meddyliau. I’n helpu ni i feithrin gwerthfawrogiad am y pridwerth, mae rhaglen ddarllen arbennig ar gyfer adeg y Goffadwriaeth wedi ei pharatoi. Mae hi ar gael mewn nifer o lefydd, fel atodiad B12 yn y New World Translation diwygiedig, y calendr, ac yn Examining the Scriptures Daily. Beth am drafod y rhain fel teulu? Drwy wneud hyn bydd ein gwerthfawrogiad am y pridwerth yn cynyddu, a bydd ein hymddygiad yn gwella.—2 Cor. 5:14, 15; 1 Ioan 4:11.

3. Yn adeg y Goffadwriaeth, sut gallwn ni ddangos ein gwerthfawrogiad?

3 Dangos Gwerthfawrogiad: Mae ein gweithredoedd yn profi ein gwerthfawrogiad. (Col. 3:15) Gwnaeth y dyn gwahanglwyfus ymdrech i ddod o hyd i Iesu a diolch iddo. Mae’n debyg iddo siarad yn frwdfrydig ag eraill am ei iachâd gwyrthiol. (Luc 6:45) A fydd gwerthfawrogiad am y pridwerth yn ein hysgogi ni i gael rhan lawn yn yr ymgyrch i hysbysebu’r Goffadwriaeth? Ffordd arall o ddangos ein gwerthfawrogiad yn adeg y Goffadwriaeth yw drwy arloesi’n gynorthwyol neu ehangu ein gweinidogaeth. Ar noson y Goffadwriaeth bydd ein gwerthfawrogiad yn ein hysgogi ni i groesawu’r ymwelwyr ac i fod yn fodlon i ateb eu cwestiynau.

4. Sut gallwn ni fwynhau’r Goffadwriaeth heb ddifaru?

4 Ai hon fydd y Goffadwriaeth olaf? (1 Cor. 11:26) Dydyn ni ddim yn gwybod. Ond yn sicr, wrth iddi fynd heibio, fe fydd cyfle unigryw i ddangos ein gwerthfawrogiad yn mynd heibio hefyd. A fyddech chi’n dal ar eich cyfle? Gad inni fyfyrio ar y pridwerth a mynegi ein gwerthfawrogiad amdano. Bydd hyn yn llawenhau Rhoddwr y pridwerth, Jehofah Dduw.—Salm 19:14.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu