LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • km 1/15 t. 2
  • Parhau i Wella Fel Pregethwyr

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Parhau i Wella Fel Pregethwyr
  • Ein Gweinidogaeth—2015
  • Erthyglau Tebyg
  • Mae Jehofa yn Caru’r Rhai Sy’n “Dwyn Ffrwyth Trwy Ddyfalbarhad”
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2018
  • Hogi Ein Sgiliau yn y Weinidogaeth—Bod o Gymorth i’ch Partner
    Ein Gweinidogaeth—2014
  • Wyt Ti’n Gweld yr Angen i Hyfforddi Eraill?
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2016
Ein Gweinidogaeth—2015
km 1/15 t. 2

Parhau i Wella Fel Pregethwyr

1. Pa esiamplau o’r ganrif gyntaf sy’n dangos y dylen ni ddal ati i wella fel pregethwyr?

1 Dylai Cristnogion wneud cynnydd fel pregethwyr. Dyna pam roedd Iesu yn hyfforddi ei ddilynwyr yn y gwaith pregethu. (Luc 9:1-5; 10:1-11) Hefyd, dyna pam roedd Acwila a Priscila yn treulio amser gydag Apolos yn “esbonio iddo Ffordd Duw yn fanylach.” (Act. 18:24-26) Am yr un rheswm, roedd Paul yn annog y pregethwr profiadol Timotheus i ymroi i’r pethau roedd ef yn eu dysgu, fel bod ei “gynnydd yn amlwg i bawb.” (1 Tim. 4:13-15) Ni waith pa mor hir rydyn ni wedi bod yn gwasanaethu Jehofa ac yn pregethu’r newyddion da, mae angen inni ddal ati i hogi ein sgiliau dysgu.

2. Sut gallwn ni ddysgu oddi wrth eraill?

2 Dysgu Oddi Wrth Eraill: Un ffordd o hogi ein sgiliau yw drwy ddysgu oddi wrth eraill. (Diar. 27:17) Felly, talwch sylw i gyhoeddwyr eraill wrth iddyn nhw siarad yn y weinidogaeth. Gofynnwch i bregethwyr profiadol am awgrymiadau ar bethau penodol, a gwrandewch arnyn nhw. (Diar. 1:5) Ydych chi’n ansicr ynglŷn â sut i alw’n ôl ar bobl, sut i gynnal astudiaeth o’r Beibl, neu ar unrhyw ran arall o’r weinidogaeth? Cymerwch y cam cyntaf a gofynnwch i arolygwr eich grŵp, neu gyhoeddwr profiadol, am hyfforddiant. Cofiwch hefyd fod ysbryd glân Jehofa yn gallu eich helpu, felly gofynnwch amdano yn aml.—Luc 11:13.

3. Hyd yn oed os nad ydyn ni wedi gofyn am farn rhywun arall, sut dylen ni ymateb i’w awgrymiadau?

3 Petai rhywun yn rhoi awgrymiadau ar sut y gallwch chi wella, peidiwch â digio, hyd yn oed os nad oeddech wedi gofyn am ei farn. (Preg. 7:9) Byddai’n ddoeth i ddilyn esiampl Apolos drwy fod yn ostyngedig a diolchgar wrth dderbyn cymorth.—Diar. 12:15.

4. Pa reswm da rhoddodd Iesu dros wella fel pregethwyr?

4 Clodforwn Dduw Drwy Wella: Defnyddiodd Iesu eglureb i annog ei ddilynwyr i wella fel pregethwyr. Disgrifiodd ei hun fel gwinwydden, a’i ddilynwyr eneiniog fel canghennau. Dywedodd Iesu fod ei Dad yn glanhau pob cangen sy’n dwyn ffrwyth ‘er mwyn iddyn nhw ddwyn mwy o ffrwyth.’ (Ioan 15:2) Fel y mae perchennog gwinllan yn dymuno i’w winwydden fod yn fwy ffrwythlon, mae Jehofa yn dymuno inni fod yn fwy effeithiol wrth gynhyrchu ‘ffrwyth ein gwefusau.’ (Heb. 13:15) Pa ganlyniadau da a ddaw o wella fel pregethwyr? Rhoddodd Iesu yr ateb: “Dyma sut y gogoneddir fy Nhad: trwy i chwi ddwyn llawer o ffrwyth.”—Ioan 15:8.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu