Hogi Ein Sgiliau yn y Weinidogaeth—Bod o Gymorth i’ch Partner
Pam Mae’n Bwysig: Roedd Iesu’n cydnabod gwerth pregethu gyda phartner. Felly, pan anfonodd Iesu tua 70 o’i ddisgyblion o’i flaen i bregethu, aethon nhw allan bob yn ddau. (Luc 10:1) Gall partner roi cymorth i’w gyd-weithiwr petai sefyllfa anodd yn codi, neu petai’n ansicr o sut i ateb y deiliad. (Preg. 4:9, 10) Gall partner rannu ei brofiad ac, ar adegau, cynnig awgrymiadau a fydd yn helpu’r un sy’n gweithio gydag ef i fod yn fwy effeithiol fel pregethwr. (Diar. 27:17) Hefyd, gallai ei annog ef drwy fod yn galonogol wrth sgwrsio.—Phil. 4:8.
Rhowch Gynnig ar Hyn yn Ystod y Mis:
Ar ôl gweithio gyda’ch partner yn y weinidogaeth, dywedwch wrtho beth roedd ef yn ei wneud, neu yn ei ddweud, a oedd yn eich helpu chi.