Defnyddiwch jw.org yn Eich Gweinidogaeth—“Dod yn Ffrind i Jehofa”
Ar ein Gwefan, o dan Cyhoeddiadau > Fideos, y mae fideos i blant sydd â’r teitl “Dod yn Ffrind i Jehofa.” Hefyd, ar y Wefan Saesneg, mae caneuon a gweithgareddau i blant. Ydych chi’n eu defnyddio nhw yn y weinidogaeth? Os ydych yn astudio’r Beibl gyda rhiant sydd â phlant bach, beth am eu dangos nhw iddo? Efallai bydd hynny’n ei annog i edrych ar rannau eraill o’n Gwefan.
Wrth i un o’n brodyr ddosbarthu Newyddion y Deyrnas Rhif 38, cymerodd dynes gopi o’r daflen a’i darllen yn syth. Roedd ganddi blant bach a oedd eisiau ei gweld hefyd. Ar ôl trafod y daflen yn fyr, fe wnaeth y brawd dynnu sylw’r ddynes i gyfeiriad y Wefan ar y cefn. Oherwydd diddordeb y ddynes, cymerodd y brawd y cyfle i chwarae un o’r fideos bach am Dafydd iddi hi a’i phlant ar ei ddyfais symudol.
Soniodd un chwaer am ein Gwefan wrth ei chyd-weithiwr, ac egluro bod gwybodaeth arni ar gyfer teuluoedd. Edrychodd y ddynes ar jw.org gyda’i phlant. Yn nes ymlaen, dywedodd y ddynes wrth y chwaer fod ei phlant yn canu “Pregetha’r Gair” o gwmpas y tŷ, un o’r caneuon yn yr adran Saesneg “Become Jehovah’s Friend.”
Dewch yn gyfarwydd â’r adnoddau sydd ar jw.org a lawrlwythwch fideo, cân, neu un o’r weithgareddau i’ch dyfais symudol. Yna, fe fyddwch yn barod i’w defnyddio yn y weinidogaeth. Dyna chi adnodd gwerthfawr a fydd yn ein helpu i wasanaethu’r Arglwydd!—Act. 20:19.