Cân 37
Ysgrythurau Ysbrydoledig Duw
Fersiwn Printiedig
1. Rhodio wnawn yng ngolau dydd,
Gair Duw llusern yw i’n ffydd.
Teilwng ganllaw, o’i ddilyn cawn
Ryddid, a thwf ysbrydol wnawn.
2. Ynddo canfod wna pob dyn
Holl ofynion dwyfol Un.
Ein disgyblu a wna’n ddi-ffael;
Bydded Gair Duw i’n gyrfa’n sail.
3. Yn ei gariad Duw in roes
Deg ganllawiau ddwyfol foes;
O fyfyrio, a’u rhoi ar waith,
Bywyd a gawn, ysbrydol faeth.
(Gweler hefyd Salm 119:105; Diar. 4:13.)