Cân 98
Hau Had y Deyrnas
1. O dewch, weision ffyddlon Jehofa,
Sy’n caru â’ch enaid eich Duw.
Ar Iesu y Meistr mae’ch angen
I weithio ym maes dynolryw.
Ewch allan i hau, a heuwch yr had
Ar dir sydd yn ffrwythlon a da.
Gall calon ymateb yn gynnes i’r gair
A chynhyrchu’n ddaionus a wna.
2. Pan syrthia peth had ar dir creigiog,
Calonnau ymateb a wnânt
Dros dro’n unig i’n cenadwri;
Heb wreiddyn, â’r gwir ni pharhânt.
Fe degir peth twf gan dyfiant y drain—
Hudoliaeth y byd, dyrys yw.
Ac eto gall peth had gynhyrchu twf llawn
Yng nghalonnau deallus eu clyw.
3. Os dyfalbarhau wnewch yn ddiwyd
I hau had y Gair, gwyn eich byd.
Fe welwch, siawns, dyfiant addawol
Yng nghalon rhai gynt oedd ddi-hid.
Pob gofal, O rhowch, i gynnal y rhain
A’u bwydo’n ysbrydol barhaus.
Gall ffrwyth ar ei ganfed ddatblygu o’r had.
Daliwch ati i hau yn y maes.
(Gweler hefyd Math. 13:19-23; 22:37.)