Cân 23
Jehofa, Ein Nerth
(Eseia 12:2)
1. Raslon Jehofa, Waredwr o fri,
Tarian a chastell a fuost i ni.
Ninnau dy Dystion, lledaenu a wnawn
Newydd am ddaear â’i chyfraith uniawn.
(CYTGAN)
I’th enw fawr Iôr dyrchafwn ein llef:
‘Henffych, Benarglwydd daear a nef!
Ti yw’n hyfrydwch, Jehofa ein Llyw,
Ein huchel Dŵr, a’n hymwared clodwiw.’
2. O’th lân breswylfa daw llewyrch i ni,
Dirnad gawn eiriau a dardd oddi fry.
Safiad a wnawn ac ymateb i’th Air;
Teg fydd gweinyddiaeth dy Deyrnas dros ddae’r.
(CYTGAN)
I’th enw fawr Iôr dyrchafwn ein llef:
‘Henffych, Benarglwydd daear a nef!
Ti yw’n hyfrydwch, Jehofa ein Llyw,
Ein huchel Dŵr, a’n hymwared clodwiw.’
3. Yn dy wasanaeth, O Dduw, mawr yw’n sêl;
I ti fe gadwn yn driw doed a ddêl.
Er gwaethaf Satan a’i sen a’i sarhad,
I ti, Jehofa, rhown glod a mawrhad.
(CYTGAN)
I’th enw fawr Iôr dyrchafwn ein llef:
‘Henffych, Benarglwydd daear a nef!
Ti yw’n hyfrydwch, Jehofa ein Llyw,
Ein huchel Dŵr, a’n hymwared clodwiw.’
(Gweler hefyd 2 Sam. 22:3; Salm 18:2; Esei. 43:12.)