Cân 19
Addewid Duw am Baradwys
1. Paradwys deg mae Duw yn addo,
Milflwyddiant Crist yn fuan ddaw.
Diddymu wna holl niwed pechod—
Byd heb farwolaeth sydd gerllaw.
(CYTGAN)
Paradwys deg, ei gweld a wnawn
Trwy lygaid ffydd. O llawenhawn!
Gwiredda Crist adduned Duw,
Bugeilio wna y ddynolryw.
2. Eu deffro gaiff y rhai sy’n huno;
Ar alwad Iesu, sefyll wnânt.
‘O na ryfeddwch,’ oedd ei eiriau;
‘Ar ddae’r Baradwys bywyd gânt.’
(CYTGAN)
Paradwys deg, ei gweld a wnawn
Trwy lygaid ffydd. O llawenhawn!
Gwiredda Crist adduned Duw,
Bugeilio wna y ddynolryw.
3. Daw’r ddaear gron yn berl prydferthwch,
Teyrnasiad Crist a ddwg lesâd.
Mawr ddiolch rown i’n Tad cariadlon;
I’w enw sanctaidd boed mawrhad.
(CYTGAN)
Paradwys deg, ei gweld a wnawn
Trwy lygaid ffydd. O llawenhawn!
Gwiredda Crist adduned Duw,
Bugeilio wna y ddynolryw.
(Gweler hefyd Math. 5:5; 6:10; Ioan 5:28, 29.)