Cân 5
Crist, Ein Hesiampl
Fersiwn Printiedig
1. Cyffrowyd cariad Duw
Gan gyflwr dynolryw.
Ei Fab anwylaf, y Crist, inni roes.
Y bara bywiol ddaeth,
Ei gnawd oedd ddwyfol faeth.
Fe brynodd inni wir fywyd, hir oes.
2. ‘Yn sanct boed enw Duw
Gan bawb ar ddae’r sy’n byw.
Jehofa, deled dy Deyrnas,’ yw’n cri.
‘D’ewyllys ddwyfol gwnaer,
Yn landeg gwneler dae’r;
Cynhaliaeth ddyddiol o dyro i ni.’
3. Cysurlon eiriau Crist
A gwyd galonnau trist
Torf o anwyliaid, ei lân ddefaid rai.
Hau had y Deyrnas wnawn,
A gwaith Duw cwblhawn.
Gorfoledd medi ddilyna’r gwaith hau.
(Gweler hefyd Math. 6:9-11; Ioan 3:16; 6:31-51; Eff. 5:2.)