Cân 71
Yr Ysbryd Sanctaidd—Rhodd Duw
Fersiwn Printiedig
1. Gwrando ein gweddi, dirion Jehofa—
Gymaint yn fwy wyt na’n calon, Dduw.
Dyro dy ysbryd, nertha ein gwendid;
Â’th fawr dosturi esmwytha ein briw.
2. Syrthio yn fyr a wnawn o’th ogoniant,
Crwydro yw’r peryg a cholli’n ffydd.
O’th flaen ymgrymwn, arnat erfyniwn;
Cymorth dy ysbryd wna’n haws cario’r dydd.
3. Doed dy dangnefedd arnom Jehofa,
Gan d’ysbryd sanctaidd ein hadfer gawn.
Nerth ddaw o’n myfyr, codwn fel eryr,
Rhedeg y ras heb ddiffygio a wnawn.
(Gweler hefyd Salm 51:11; Ioan 14:26; Act. 9:31.)