LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • fg gwers 13 cwes. 1-4
  • Beth Yw’r Newyddion Da am Grefydd?

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Beth Yw’r Newyddion Da am Grefydd?
  • Newyddion Da Oddi Wrth Dduw!
  • Erthyglau Tebyg
  • Sut Mae Gau Grefydd yn Rhoi Darlun Anghywir o Dduw
    Mwynhewch Fywyd am Byth!—Cwrs Rhyngweithiol am y Beibl
  • Mae Diwedd Gau Grefydd yn Agos!
    Mae Diwedd Gau Grefydd yn Agos!
  • Addoliad y Mae Duw yn ei Gymeradwyo
    Beth Mae’r Beibl yn ei Wir Ddysgu?
  • D’wedwch “Na!” Wrth Gau Grefydd
    Dod yn Ffrind i Dduw!
Gweld Mwy
Newyddion Da Oddi Wrth Dduw!
fg gwers 13 cwes. 1-4

GWERS 13

Beth Yw’r Newyddion Da am Grefydd?

1. A yw pob crefydd yn dda?

Dyn yn darllen y Beibl

Mae pobl ddiffuant i’w cael ym mhob crefydd. Y newyddion da yw bod Duw yn gweld y bobl hynny ac maen nhw’n bwysig iddo. Ond er tristwch mawr, mae llawer o bethau creulon wedi cael eu gwneud yn enw crefydd, neu gan bobl grefyddol. (2 Corinthiaid 4:3, 4; 11:13-15) Clywir sôn yn y newyddion am rai crefyddau sy’n cymryd rhan mewn terfysgaeth, hil-laddiad, rhyfeloedd a cham-drin plant. Mae hyn i gyd yn torri calonnau pobl sy’n credu’n ddiffuant yn Nuw!​—Darllenwch Mathew 24:3-5, 11, 12.

Mae gwir grefydd yn gogoneddu Duw ond nid yw gau grefydd yn ei blesio o gwbl. Mae gau grefydd yn dysgu syniadau nad ydyn nhw’n deillio o’r Beibl, gan gynnwys dysgeidiaethau anghywir am Dduw ac am y meirw. Ond mae Jehofah am i bobl wybod y gwir amdano.​—Darllenwch Pregethwr 9:5, 10; 1 Timotheus 2:3-5.

2. Beth yw’r newyddion da ynglŷn â chrefydd?

Nid yw Duw yn cael ei dwyllo gan grefyddau sydd yn honni eu bod nhw yn caru Duw, ond sydd mewn gwirionedd yn caru byd Satan. (Iago 4:4) “Babilon Fawr” yw’r enw y mae Gair Duw yn ei roi ar gau grefyddau’r byd oherwydd Babilon gynt oedd man cychwyn gau grefydd ar ôl y Dilyw yn amser Noa. Yn fuan, bydd Duw yn rhoi terfyn sydyn ar bob crefydd sy’n twyllo ac yn gormesu’r ddynoliaeth.​—Darllenwch Datguddiad 17:1, 2, 5, 16, 17; 18:8.

Mae mwy o newyddion da ar gael. Nid yw Jehofah wedi anghofio’r bobl ddiffuant sydd wedi eu gwasgaru drwy gau grefyddau’r byd. Y mae’n uno’r bobl hynny trwy ddysgu’r gwirionedd iddyn nhw.​—Darllenwch Micha 4:2, 5.

3. Beth y dylai pobl ddiffuant ei wneud?

Pobl yn siarad ar ôl cyfarfod Cristnogol

Mae gwir grefydd yn uno pobl

Mae Jehofah yn caru pobl sydd yn caru gwirionedd a daioni. Y mae yn eu hannog nhw i ddod allan o gau grefydd. Mae pobl sy’n caru Duw yn fodlon newid eu bywydau er mwyn ei blesio.​—Darllenwch Datguddiad 18:4.

Yn y ganrif gyntaf, pan glywodd pobl ddiffuant y newyddion da gan yr apostolion, roedden nhw’n llawenhau. Fe ddysgon nhw ffordd newydd o fyw a roddodd bwrpas, gobaith a hapusrwydd iddyn nhw. Fe wnaethon nhw roi’r lle cyntaf yn eu bywydau i Jehofah, ac mae hynny’n esiampl dda inni heddiw.​—Darllenwch 1 Thesaloniaid 1:8, 9; 2:13.

Mae Jehofah yn croesawu’r rhai sy’n dod allan o gau grefydd. Os ydych chi’n derbyn gwahoddiad cynnes Jehofah, byddwch yn dod yn ffrind i Dduw ac yn rhan o deulu cariadus sy’n addoli Jehofah. Cewch hefyd y gobaith o fywyd tragwyddol.​—Darllenwch Marc 10:29, 30; 2 Corinthiaid 6:17, 18.

4. Sut bydd Duw yn dod â hapusrwydd i bob cwr o’r byd?

Mae’r farnedigaeth sydd i ddod ar gau grefydd yn newyddion da. Oherwydd hynny, bydd gormes yn diflannu o’r byd. Ni fydd gau grefydd byth eto yn twyllo pobl. Bydd pawb ar y ddaear yn addoli’r unig wir Dduw.​—Darllenwch Datguddiad 18:20, 21; 21:3, 4.

Am fwy o wybodaeth, gweler penodau 15 ac 16 yn y llyfr Beth Mae’r Beibl yn ei Wir Ddysgu?

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu