LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • my stori 66
  • Y Frenhines Ddrwg

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Y Frenhines Ddrwg
  • Storïau o’r Beibl
  • Erthyglau Tebyg
  • “Dw i’n Mynd i Roi Diwedd ar Linach Ahab”—2Br 9:8
    Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2022
  • Wyt Ti’n Cytuno â Jehofa Ynglŷn â Chyfiawnder?
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2017
  • Beth Ydy Gwir Edifeirwch?
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2021
Storïau o’r Beibl
my stori 66
Dynion o’r palas yn mynd i daflu Brenhines Jesebel allan o’r ffenestr

STORI 66

Y Frenhines Ddrwg

AR ÔL i’r Brenin Jeroboam farw, daeth un brenin drwg ar ôl y llall i reoli ar y deg llwyth yn y gogledd. Y gwaethaf un oedd Ahab. Wyt ti’n gwybod pam? Wel, un rheswm oedd dylanwad ei wraig, y frenhines ddrwg, Jesebel.

Nid oedd Jesebel yn un o bobl Israel. Merch brenin Sidon oedd hi. Roedd hi’n addoli’r gau dduw Baal. Oherwydd ei dylanwad hi, dechreuodd Ahab a llawer o’r bobl addoli Baal hefyd. Roedd Jesebel yn casáu Jehofa ac fe laddodd hi lawer o’i broffwydi. Roedd rhai o’r proffwydi yn gorfod ffoi am eu bywydau a chuddio mewn ogofâu. Roedd Jesebel yn barod i ladd unrhyw un oedd yn sefyll yn ei ffordd.

Un diwrnod, roedd Ahab wedi pwdu. Gofynnodd Jesebel iddo: ‘Pam rwyt ti mewn hwyliau mor ddrwg heddiw?’

‘Gwnes i ofyn i Naboth werthu ei winllan imi,’ atebodd Ahab, ‘ond y mae wedi gwrthod.’

‘Paid â phoeni,’ meddai Jesebel. ‘Fe wna i gael y winllan i ti.’

Ysgrifennodd Jesebel lythyrau at arweinwyr y dref lle roedd Naboth yn byw. Dywedodd wrthyn nhw: ‘Trefnwch i ddynion drwg gyhuddo Naboth o felltithio Duw a’r brenin. Yna, ewch ag ef allan o’r dref a thaflwch gerrig ato nes iddo farw.’

Y funud y clywodd Jesebel fod Naboth wedi marw, dywedodd wrth Ahab: ‘Cod, cymer y winllan.’ Am beth drwg i’w wneud! Wyt ti’n cytuno ei bod hi’n haeddu cael ei chosbi?

Ymhen amser, anfonodd Jehofa ddyn o’r enw Jehu i gosbi Jesebel. Pan glywodd hi fod Jehu ar ei ffordd, dyma hi’n rhoi colur ar ei hwyneb ac yn gwneud ei gwallt. Gan geisio edrych yn dlws, aeth i eistedd wrth y ffenestr i Jehu ei gweld hi. Pan gyrhaeddodd ef, gwaeddodd ar y dynion yn y palas: ‘Taflwch hi i lawr!’ Cydiodd y dynion ynddi a’i thaflu allan o’r ffenestr. A dyna oedd diwedd ar y frenhines ddrwg, Jesebel.

1 Brenhinoedd 16:29-33; 18:1-4; 21:1-16; 2 Brenhinoedd 9:30-37.

Cwestiynau ar Gyfer Astudio

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu