LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • mwb16 Medi t. 8
  • Maglau i’w Hosgoi Wrth Gynnal Astudiaeth Feiblaidd

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Maglau i’w Hosgoi Wrth Gynnal Astudiaeth Feiblaidd
  • Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr ar Gyfer y Cyfarfodydd—2016
  • Erthyglau Tebyg
  • Helpa Dy Fyfyrwyr i Gael eu Bedyddio
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2021
  • Cadw Pethau’n Syml
    Caru Pobl—Gwneud Disgyblion
  • Sut i Helpu Myfyriwr y Beibl i Gyrraedd Bedydd—Rhan Dau
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2020
  • Defnyddio “Mwynhewch Fywyd am Byth!” i Gynnal Astudiaethau Beiblaidd
    Caru Pobl—Gwneud Disgyblion
Gweld Mwy
Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr ar Gyfer y Cyfarfodydd—2016
mwb16 Medi t. 8

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Maglau i’w Hosgoi Wrth Gynnal Astudiaeth Feiblaidd

Fersiwn Printiedig
Brawd yn siarad gormod â’i fyfyriwr

Siarad Gormod: Paid â theimlo bod angen i ti esbonio pob manylyn. Defnyddiodd Iesu gwestiynau i helpu pobl meddwl a dod i’r casgliad cywir. (Mth 17:24-27) Mae cwestiynau yn dod â bywyd i’r astudiaeth ac yn dy helpu di i weld beth mae dy fyfyriwr yn ei ddeall ac yn ei gredu. (be-E 253 ¶3-4) Wrth ofyn cwestiwn, bydda’n amyneddgar a disgwyl am yr ateb. Os cei ateb anghywir gan y myfyriwr, yn lle rhoi’r ateb cywir yn syth, beth am ddefnyddio cwestiynau i geisio ei roi ar ben ffordd er mwyn iddo ddod at yr ateb cywir? (be-E 238 ¶1-2) Siarada ar gyflymder sy’n caniatáu i’r myfyriwr ddeall y syniadau newydd.—be-E 230 ¶4.

Llawer o fanylion cymhleth ynglŷn â pham rydyn ni’n heneiddio

Gorgymhlethu: Mae angen osgoi’r temtasiwn i ailadrodd popeth rwyt yn gwybod am y pwnc. (In 16:12) Ceisia cadw’r ffocws ar brif bwynt y paragraff. (be-E 226 ¶4-5) Mae manylion, hyd yn oed rhai diddorol, yn medru boddi’r prif bwynt. (be-E 235 ¶3) Unwaith mae’r myfyriwr yn deall y prif bwynt, dos at y paragraff nesaf.

Brawd yn mynd dros gormod o ddeunydd ac yn drysu’r myfyriwr

Trosglwyddo Gwybodaeth yn Unig: Ein nod yw cyrraedd y galon, nid cyrraedd diwedd y deunydd. (Lc 24:32) Defnyddia grym Gair Duw drwy ganolbwyntio ar brif adnodau’r wers. (2Co 10:4; Heb 4:12; be-E 144 ¶1-3) Defnyddia eglurebau syml. (be-E 245 ¶2-4) Ystyria beth yw daliadau’r myfyriwr, a’r problemau mae’n eu hwynebu yn ei fywyd, a theilwra’r wers i’w siwtio. Gofynna gwestiynau fel: “Beth ydych chi’n teimlo am yr hyn rydych yn ei ddysgu?” “Beth mae hyn yn ein dysgu am Jehofa?” “Pa fudd ydych chi’n ei weld o roi’r cyngor hwn ar waith?”—be-E 238 ¶3-5; 259 ¶1.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu