TRYSORAU O AIR DUW | ESEIA 38-42
Mae Jehofa yn Rhoi Egni i’r Blinedig
40:29-31
Gall yr eryr hedfan yn yr awyr am oriau, drwy fynd o un thermol i’r llall. Unwaith mae’n darganfod thermol neu golofn o aer cynnes sy’n codi, mae’n troelli y tu mewn iddi a chael ei godi yn uwch ac yn uwch. Ar ôl iddo gyrraedd rhyw uchder neilltuol, mae’n gleidio i’r thermol nesaf, a bydd y broses yn cael ei hailadrodd droeon
Mae ehediad yr eryr, sy’n ymddangos mor ddiymdrech, yn darlunio’n hyfryd sut gallwn gario ymlaen yn ein gwasanaeth i Dduw gyda’r nerth mae Ef yn ei ddarparu