Cân 47
Cyhoeddwch yr Efengyl
1. Gyhyd, dirgelwch fu yr addawedig Had;
Y Deyrnas yn ei llawnder rydd i Dduw fawrhad.
Edrychodd ar drueni hil syrthiedig dyn,
Tosturiodd wrtho; ceisiodd ffordd yn fwyn i’w drin.
Fe ragordeiniodd Iesu’n Ben-tywysog dae’r,
Derbyniai’r Deyrnas rym yn unol â’r dwyfol Air.
Fe drefnwyd cymar, glân briodferch i Fab Duw,
Praidd bychan dewisedig, gogoneddus yw.
2. Ein dyddiau ni yw’r cyfnod i gyhoeddi’r Gair,
Ein cenadwri cyrraedd wna derfynau’r ddae’r.
Hyfrydwch gaiff angylion Duw, cânt hwythau ran;
Cefnogaeth gawn o roi’r pregethu ar y bla’n.
Sancteiddiwn a chlodforwn enw hawddgar Jah;
Llywodraeth deg a lwydda, daear a lawenha.
Y gwaith cenhadu cwblhawn, fe haedda’n bri;
Am Deyrnas na ddifethir byth pregethwn ni.
(Gweler hefyd Marc 4:11; Act. 5:31; 1 Cor. 2:1, 7.)