LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • fg gwers 14 cwes. 1-4
  • Pam Mae gan Dduw Gyfundrefn?

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Pam Mae gan Dduw Gyfundrefn?
  • Newyddion Da Oddi Wrth Dduw!
  • Erthyglau Tebyg
  • Sut Cyfundrefnir Tystion Jehofah
    Beth Mae Duw yn ei Ofyn Gennym Ni?
  • Wedi Ein Trefnu yn Unol â Gair Duw
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2016
  • Rôl y “Gwas Ffyddlon a Chall”
    Mwynhewch Fywyd am Byth!—Cwrs Rhyngweithiol am y Beibl
  • “Rydyn Ni Wedi Penderfynu’n Unfrydol”
    ‘Tystiolaethu’n Drylwyr am Deyrnas Dduw’
Newyddion Da Oddi Wrth Dduw!
fg gwers 14 cwes. 1-4

GWERS 14

Pam Mae gan Dduw Gyfundrefn?

1. Pam gwnaeth Duw drefnu Israel gynt yn genedl?

1. Pobl Duw yn Israel gynt; 2. Cristnogion y ganrif gyntaf yn pregethu

Fe wnaeth Duw drefnu disgynyddion Abraham yn un genedl, gan roi cyfraith arbennig iddyn nhw. Galwodd Jehofah y genedl yn “Israel” ac ymddiried ei air a gwir addoliad iddi. (Salm 147:19, 20) Trwy Israel, fe fyddai pob cenedl yn cael ei bendithio.​—Darllenwch Genesis 22:18.

Dewisodd Duw’r Israeliaid i fod yn dystion iddo. Mae eu hanes gynt yn dangos sut mae cenedl yn ffynnu drwy ufuddhau i orchmynion Duw. (Deuteronomium 4:6) Felly, trwy’r Israeliaid roedd yn bosibl i bobl eraill ddod i adnabod y gwir Dduw.​—Darllenwch Eseia 43:10, 12.

2. Pam mae gwir Gristnogion yn rhan o gyfundrefn?

Ymhen amser, collodd Israel ffafr Duw a dewisodd Jehofah y gynulleidfa Gristnogol i gymryd ei lle. (Mathew 21:43; 23:37, 38) Heddiw, yn lle’r Israeliaid, gwir Gristnogion sy’n dystion i Jehofah.​—Darllenwch Actau 15:14, 17.

Rhoddodd Iesu drefn ar y gwaith o bregethu a gwneud disgyblion. (Mathew 10:7, 11; 24:14; 28:19, 20) Mae’r gwaith hwnnw yn ei anterth heddiw yn ystod dyddiau diwethaf y drefn bresennol. Am y tro cyntaf erioed, mae Jehofah wedi uno miliynau o bobl o bob cenedl i’w addoli. (Datguddiad 7:9, 10) Mae gwir Gristnogion yn perthyn i grŵp unedig sy’n calonogi ac yn helpu ei gilydd. Le bynnag y maen nhw’n byw yn y byd, maen nhw’n dilyn yr un rhaglen o astudio’r Beibl yn eu cyfarfodydd.​—Darllenwch Hebreaid 10:24, 25.

3. Sut dechreuodd Tystion Jehofah yn yr oes fodern?

Lluniau o Dystion Jehofa yn pregethu o’r 1900au cynnar hyd at heddiw; llenyddiaeth yn trafod y Beibl mewn llawer o ieithoedd.

Yn y 1870au, fe wnaeth grŵp bach o fyfyrwyr y Beibl ddechrau ailddarganfod gwirioneddau a oedd wedi bod yn guddiedig ers amser maith. Roedden nhw’n gwybod bod Iesu wedi trefnu’r gynulleidfa Gristnogol ar gyfer y gwaith o bregethu, felly dechreuon nhw ymgyrch ryngwladol i bregethu am y Deyrnas. Ym 1931, fe wnaethon nhw fabwysiadu’r enw Tystion Jehofah.​—Darllenwch Actau 1:8; 2:1, 4; 5:42.

4. Sut mae gwaith pregethu Tystion Jehofah yn cael ei drefnu?

Yn y ganrif gyntaf, roedd corff llywodraethol canolog yn cyfarwyddo gwaith y cynulleidfaoedd Cristnogol mewn nifer o wledydd. Roedd y corff hwnnw’n derbyn mai Iesu oedd yn Ben ar y gynulleidfa. (Actau 16:4, 5) Yn yr un modd, mae gwaith Tystion Jehofah heddiw yn cael ei gyfarwyddo gan Gorff Llywodraethol o henuriaid profiadol. Mae’r Corff hwn yn goruchwylio swyddfeydd cangen Tystion Jehofah yn y gwaith o gyfieithu, argraffu, a dosbarthu deunydd ar gyfer astudio’r Beibl a hynny mewn mwy na 600 o ieithoedd. Fel hyn, mae’r Corff Llywodraethol yn gallu rhoi cyfarwyddyd a chalondid Ysgrythurol i fwy na 100,000 o gynulleidfaoedd trwy’r byd. Ym mhob cynulleidfa, mae dynion cymwys yn gwasanaethu fel henuriaid, neu oruchwylwyr. Maen nhw’n bugeilio praidd Duw mewn ffordd garedig.​—Darllenwch 1 Pedr 5:2, 3.

Mae Tystion Jehofah wedi eu trefnu i bregethu’r newyddion da ac i wneud disgyblion. Fel yr apostolion, rydyn ni’n pregethu o dŷ i dŷ. (Actau 20:20, Y Beibl Cysegr-lân) Hefyd, rydyn ni’n cynnig astudio’r Beibl gyda phobl sy’n caru gwirioneddau’r Beibl. Ond mae Tystion Jehofah yn fwy na chyfundrefn. Rydyn ni’n deulu gyda Thad cariadus, a brodyr a chwiorydd sy’n gofalu am ei gilydd. (2 Thesaloniaid 1:3) Mae pobl Jehofah yn perthyn i gyfundrefn sy’n bodoli er mwyn plesio Duw a helpu eraill.​—Darllenwch Salm 33:12; Actau 20:35.

Am fwy o wybodaeth, gweler pennod 19 yn y llyfr Beth Mae’r Beibl yn ei Wir Ddysgu?

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu