RHAN 13
Beth Mae’n Rhaid Inni ei Wneud i Blesio Duw?
Osgowch beth sy’n ddrwg. 1 Corinthiaid 6:9, 10
Os ydyn ni’n caru Jehofah, fyddwn ni ddim yn gwneud pethau y mae’n eu casáu.
Nid yw Jehofah eisiau inni ddwyn, meddwi, na chamddefnyddio cyffuriau.
Mae Duw yn casáu llofruddiaeth, erthyliad, a gweithredoedd hoyw. Nid yw Duw eisiau inni fod yn farus nac i ymladd yn erbyn pobl eraill.
Ddylwn ni ddim addoli delwau nac arfer ysbrydegaeth.
Yn y Baradwys sydd i ddod ar y ddaear, ni fydd unrhyw le i bobl ddrwg.
Gwnewch beth sy’n dda. Mathew 7:12
I foddhau Duw, mae’n rhaid inni geisio bod yn debyg iddo.
Dangoswch gariad tuag at eraill drwy fod yn garedig a rhoi yn hael.
Byddwch yn onest.
Byddwch yn faddeugar ac yn drugarog.
Siaradwch â phobl am Jehofah a’i bwrpas.—Eseia 43:10.