GWERS 5
Darllen yn Gywir
1 Timotheus 4:13
CRYNODEB: Darllena’n uchel yn union yr hyn sydd ar y dudalen.
SUT I FYND ATI:
Paratoa yn dda. Ystyria pam cafodd y darn ei ysgrifennu. Ymarfer ddarllen grwpiau o eiriau, yn hytrach na geiriau unigol. Sicrha nad wyt ti’n ychwanegu neu’n methu geiriau, nac yn dweud geiriau eraill yn eu lle. Dilyna’r atalnodi.
Yngana bob gair yn gywir. Os nad wyt ti’n gwybod sut i ynganu gair, gelli di edrych mewn geiriadur, gwrando ar recordiad o’r cyhoeddiad, neu ofyn am help gan ddarllenwr da.
Siarada yn eglur. Dyweda’r geiriau yn ofalus, gan godi dy ben ac agor dy geg yn llydan. Ceisia ynganu pob sillaf.