LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • th gwers 2 t. 5
  • Arddull Sgyrsiol

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Arddull Sgyrsiol
  • Ymroi i Ddarllen a Dysgu
  • Erthyglau Tebyg
  • Brwdfrydedd
    Ymroi i Ddarllen a Dysgu
  • Siarad Gydag Argyhoeddiad
    Ymroi i Ddarllen a Dysgu
  • Cynhesrwydd a Chydymdeimlad
    Ymroi i Ddarllen a Dysgu
  • Ceisio Cyffwrdd â’r Galon
    Ymroi i Ddarllen a Dysgu
Gweld Mwy
Ymroi i Ddarllen a Dysgu
th gwers 2 t. 5

GWERS 2

Arddull Sgyrsiol

Adnod

2 Corinthiaid 2:17

CRYNODEB: Siarada mewn ffordd naturiol a diffuant i ddangos sut rwyt ti’n teimlo am y pwnc ac am y rhai sy’n gwrando arnat ti.

SUT I FYND ATI:

  • Gweddïa a pharatoa’n ofalus. Gweddïa am help i ganolbwyntio, nid arnat ti dy hun, ond ar dy neges. Cadwa’r prif bwyntiau’n glir yn dy feddwl. Rho dy syniadau yn dy eiriau dy hun; paid â’u darllen air am air o’r dudalen.

    Awgrym ymarferol

    Os wyt ti’n mynd i ddarllen o’r Beibl, neu o gyhoeddiad arall, rhaid dod yn gyfarwydd iawn â’r testun fel y byddi di’n ei ddarllen yn rhugl. Os wyt ti’n dyfynnu pobl, darllena eu geiriau gyda theimlad, ond heb fod yn orddramatig.

  • Siarada o’r galon. Ystyria pam mae angen i dy wrandawyr glywed y neges. Canolbwyntia arnyn nhw. Yna bydd dy osgo, dy ystumiau, a mynegiant dy wyneb yn dangos dy fod ti’n ddiffuant, yn gynnes, ac yn gyfeillgar.

    Awgrym ymarferol

    Nid yw bod yn naturiol yn golygu bod yn esgeulus. Cadwa urddas dy neges drwy ddefnyddio iaith eglur a gramadeg cywir.

  • Edrycha ar dy wrandawyr. Cadwa gyswllt llygaid â dy wrandawyr os na fydd hynny’n peri iddyn nhw deimlo’n annifyr. Wrth roi anerchiad, edrycha ar wahanol unigolion yn eu tro, yn hytrach na gadael i dy lygaid grwydro’n ddiamcan dros y gynulleidfa gyfan.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu