GWERS 12
Cynhesrwydd a Chydymdeimlad
1 Thesaloniaid 2:7, 8
CRYNODEB: Siarada o’r galon, a dangosa dy fod ti’n caru dy wrandawyr.
SUT I FYND ATI:
Meddylia am dy wrandawyr. Er mwyn paratoi dy galon, atgoffa dy hun o’r problemau mae dy wrandawyr yn eu hwynebu. Ceisia ddychmygu sut maen nhw’n teimlo.
Dewisa dy eiriau’n ofalus. Ceisia adfywio, cysuro, a rhoi nerth i dy wrandawyr. Paid â dweud pethau difeddwl a all ddigio eraill, a phaid â bychanu pobl sydd ddim yn credu yn Jehofa na dilorni eu daliadau diffuant.
Dangosa dy ddiddordeb. Bydd tôn caredig dy lais ac ystumiau priodol yn dangos dy fod ti’n caru dy wrandawyr. Sicrha fod dy wyneb yn adlewyrchu hynny hefyd; gwena’n aml.