CÂN 133
Addolwch Jehofa Chi Bobl Ifanc
Fersiwn Printiedig
(Pregethwr 12:1)
1. Ni sydd yn ifanc, a ffyddlon i Dduw,
Nerth ein hieuenctid, o werth iddo yw.
Sylw cariadus Jehofa a gawn,
Mae e’n bendithio pob ymdrech a wnawn.
2. At ein rhieni, ein parch dangos wnawn,
Plesiwn Jehofa ac ato nesawn.
Ffrind i ni bydd ef bob dydd byddwn byw,
Da yw ymdrechu i ennill ffafr Duw.
3. Ein Mawr Greawdwr a gofiwn bob dydd,
Tyfu mae’n cariad, cynyddu mae’n ffydd.
Wrth wneud ein gorau, ein bywyd fwynhawn,
Calon Jehofa yn hapus a wnawn.
(Gweler hefyd Salm 71:17; Galar. 3:27; Eff. 6:1-3.)