LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • th gwers 19 t. 22
  • Ceisio Cyffwrdd â’r Galon

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Ceisio Cyffwrdd â’r Galon
  • Ymroi i Ddarllen a Dysgu
  • Erthyglau Tebyg
  • Brwdfrydedd
    Ymroi i Ddarllen a Dysgu
  • Dangos Gwerth Ymarferol y Deunydd
    Ymroi i Ddarllen a Dysgu
  • Yn Adeiladol ac yn Gadarnhaol
    Ymroi i Ddarllen a Dysgu
  • Cynhesrwydd a Chydymdeimlad
    Ymroi i Ddarllen a Dysgu
Gweld Mwy
Ymroi i Ddarllen a Dysgu
th gwers 19 t. 22

GWERS 19

Ceisio Cyffwrdd â’r Galon

Adnod

Diarhebion 3:1

CRYNODEB: Helpa dy wrandawyr i weld gwerth yr hyn y maen nhw’n ei ddysgu a’i roi ar waith.

SUT I FYND ATI:

  • Helpa dy wrandawyr i feddwl am eu cymhellion. Gofynna gwestiynau rhethregol a fydd yn helpu pobl yn dy gynulleidfa i ddadansoddi eu teimladau.

  • Apelia at gymhellion da. Anoga dy wrandawyr i geisio deall pam maen nhw’n gwneud pethau da. Helpa nhw i feithrin cymhellion pur, sef cariad at Jehofa, at bobl eraill, ac at ddysgeidiaethau’r Beibl. Rhesyma â dy wrandawyr; paid â rhoi pregeth iddyn nhw. Yn hytrach na chodi cywilydd arnyn nhw, sicrha eu bod nhw’n cael eu calonogi a’u hannog i wneud eu gorau erbyn diwedd dy anerchiad.

  • Cyfeiria’r sylw at Jehofa. Dangosa sut mae’r dysgeidiaethau, yr egwyddorion, a’r gorchmynion yn y Beibl yn amlygu priodoleddau Jehofa a’i gariad tuag aton ni. Ceisia feithrin yn dy wrandawyr awydd i ystyried teimladau Jehofa a’i blesio.

    Awgrym ymarferol

    Cofia mai Jehofa sy’n tynnu pobl. Defnyddia ei Air i ysgogi dy wrandawyr.

YN Y WEINIDOGAETH

Os yw’n bosib, defnyddia gwestiynau i ddarganfod beth mae rhywun yn ei gredu. Sylwa ar ei wyneb a thôn ei lais er mwyn deall ei wir deimladau. Bydda’n amyneddgar. Mae’n debyg bydd angen meithrin perthynas dda cyn y bydd rhywun yn fodlon sôn am ei deimladau dyfnaf.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu