LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • lff gwers 11
  • Sut i Elwa’n Fwy ar Ddarllen y Beibl

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Sut i Elwa’n Fwy ar Ddarllen y Beibl
  • Mwynhewch Fywyd am Byth!—Cwrs Rhyngweithiol am y Beibl
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • CLODDIO’N DDYFNACH
  • CRYNODEB
  • DARGANFOD MWY
  • Sut Gall y Beibl Eich Helpu?
    Mwynhewch Fywyd am Byth!—Cwrs Rhyngweithiol am y Beibl
  • Sut Gall y Beibl Eich Helpu?
    Mwynhewch Fywyd am Byth!—Gwersi Agoriadol am y Beibl
  • Sut Gall y Beibl Fy Helpu i?—Rhan 3: Elwa’n Llawn o Ddarllen y Beibl
    Cwestiynau Pobl Ifanc
  • Sut Gallaf Ddechrau Arni?
    Y Tŵr Gwylio: Sut i Elwa’n Fwy o Ddarllen y Beibl?
Gweld Mwy
Mwynhewch Fywyd am Byth!—Cwrs Rhyngweithiol am y Beibl
lff gwers 11
Gwers 11. Dynes yn darllen y Beibl wrth iddi gymryd seibiant o’i gwaith tŷ.

GWERS 11

Sut i Elwa’n Fwy ar Ddarllen y Beibl

Fersiwn Printiedig
Fersiwn Printiedig
Fersiwn Printiedig

Ydych chi erioed wedi meddwl am ddechrau prosiect mawr, ond wedyn yn teimlo ei fod yn rhy anodd? Er mwyn gwneud pethau’n haws, efallai i chi benderfynu rhannu’r prosiect yn dasgau llai. Gallwch chi wneud yr un peth wrth ddarllen y Beibl. Ond y cwestiwn ydy: ‘Ble dylwn i ddechrau?’ Yn y wers hon, byddwn ni’n trafod pethau syml y gallwch chi eu gwneud i’ch helpu chi i fwynhau darllen ac astudio’r Beibl.

1. Pam dylen ni ddarllen y Beibl yn rheolaidd?

Bydd rhywun sy’n darllen y Beibl, neu ‘gyfraith yr ARGLWYDD’ yn rheolaidd, yn hapus ac yn llwyddo. (Darllenwch Salm 1:1-3, BCND.) I ddechrau, ceisiwch ddarllen y Beibl am gwpl o funudau bob dydd. Po fwyaf rydych chi’n darllen Gair Duw, mwyaf yn y byd y byddwch yn ei fwynhau.

2. Beth fydd yn eich helpu chi i elwa ar ddarllen y Beibl?

Er mwyn cael y gorau o ddarllen y Beibl, mae angen inni gymryd amser i feddwl am yr hyn rydyn ni’n ei ddarllen. Dylen ni ddarllen y Beibl a ‘myfyrio’ arno. (Josua 1:8) Wrth ichi ddarllen, gofynnwch: ‘Beth rydw i’n ei ddysgu am Jehofa Dduw? Sut gallaf roi hyn ar waith yn fy mywyd? Sut gallaf ddefnyddio’r adnodau hyn i helpu eraill?’

3. Sut gallwch chi neilltuo’r amser i ddarllen y Beibl?

Ydy hi’n anodd ichi ddod o hyd i’r amser i ddarllen y Beibl? Mae hyn yn broblem gyffredin. Ceisiwch “ddefnyddio eich amser yn y ffordd orau.” (Effesiaid 5:16) Gallwch wneud hyn drwy osod amser penodol bob dydd ar gyfer darllen y Beibl. Mae rhai yn ei wneud yn gynnar yn y bore. Mae’n well gan eraill ddarllen y Beibl yn hwyrach yn y dydd, efallai yn eu hamser cinio neu cyn mynd i’r gwely. Beth fyddai’r amser gorau i chi?

CLODDIO’N DDYFNACH

Dysgwch sut i wneud darllen y Beibl yn fwy diddorol, a sut i baratoi er mwyn cael y gorau ohono.

Collage: Bachgen yn dysgu cael blas ar fath newydd o fwyd yn araf deg. 1. Mae’r bachgen yn chwarae â’i fwyd. 2. Ychydig yn hŷn, mae’r bachgen yn bwyta’r bwyd. 3. Yn ei arddegau, mae’r bachgen yn mwynhau’r bwyd.

Fel y gallwn gael blas ar fwydydd newydd, gallwn ni ddod i fwynhau darllen y Beibl

4. Dysgwch sut i fwynhau darllen y Beibl

Efallai, i ddechrau, fydd darllen y Beibl ddim yn hawdd iawn. Ond fe allwn ni ddod i’w fwynhau, fel y gallwn ni ddod i gael blas ar fwydydd newydd. Darllenwch 1 Pedr 2:2, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:

  • Petasech chi’n darllen y Beibl bob dydd, ydych chi’n meddwl y byddech chi’n dechrau edrych ymlaen ato a’i fwynhau?

Gwyliwch y FIDEO i weld sut mae rhai wedi dechrau mwynhau darllen y Beibl. Yna trafodwch y cwestiynau sy’n dilyn.

FIDEO: Pobl Ifanc Sy’n Dysgu Caru Gair Duw (5:33)

  • Yn y fideo, pa anawsterau wnaeth y bobl ifanc ddod drostyn nhw?

  • Beth oedd yn eu helpu nhw i ddal ati i ddarllen y Beibl yn rheolaidd?

  • Sut roedden nhw’n gwneud darllen y Beibl yn fwy diddorol?

Syniadau i’ch helpu chi:

  • Dewiswch gyfieithiad cywir, sy’n hawdd ei ddeall. Rhowch gynnig ar y New World Translation os yw ar gael yn eich iaith chi, neu mewn iaith arall rydych chi’n ei darllen yn dda.

  • Dechreuwch gyda’r rhannau sy’n apelio fwyaf atoch chi. I ddod o hyd i syniadau, gwelwch y siart “Dechrau Darllen y Beibl.”

  • Cadwch nodyn o’r hyn rydych chi wedi ei ddarllen. Defnyddiwch y siart “Darllen y Beibl—Eich Cofnod Personol” yn y llyfr hwn.

  • Defnyddiwch yr ap JW Library®. Gallwch ddefnyddio’r ap ar eich ffôn clyfar neu ar ddyfais arall i ddarllen y Beibl a gwrando arno le bynnag ydych chi.

  • Defnyddiwch Cymorth i Astudio Gair Duw. Mae’n cynnwys mapiau a siartiau a fydd yn gwneud darllen y Beibl yn fwy diddorol.

5. Sut i baratoi ar gyfer eich sesiwn astudio’r Beibl

Darllenwch Salm 119:34, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:

  • Pam mae’n bwysig ichi weddïo cyn darllen y Beibl neu cyn paratoi ar gyfer eich sesiwn astudio’r Beibl?

Sut gallwch chi gael y budd mwyaf o’r sesiwn astudio? Wrth ichi baratoi’r gwersi, rhowch gynnig ar hyn:

  1. Darllenwch y paragraffau agoriadol yn y wers.

  2. Darllenwch yr adnodau a cheisiwch weld sut maen nhw’n cysylltu â’r deunydd.

  3. Nodwch y geiriau allweddol sy’n ateb y cwestiynau. Bydd hyn yn eich helpu chi i drafod y wers yn y sesiwn astudio.

Collage: Dynes yn paratoi ar gyfer sesiwn astudio’r Beibl. A. Mae hi’n darllen tudalen gyntaf y wers. B. Mae hi’n darllen yr adnodau yn y Beibl. C. Mae hi’n marcio’r pwyntiau pwysig yn y wers.

Oeddech chi’n gwybod?

Mae Tystion Jehofa wedi defnyddio sawl cyfieithiad gwahanol o’r Beibl. Ond rydyn ni’n gwerthfawrogi’r New World Translation of the Holy Scriptures yn fawr, oherwydd y mae’n fanwl gywir, yn glir, ac mae’n defnyddio enw Duw.—Gweler yr erthygl “Oes gan Dystion Jehofa Gyfieithiad eu Hunain o’r Beibl?” ar jw.org.

BYDD RHAI YN DWEUD: “Mae astudio’r Beibl yn rhy anodd. Does gen i ddim digon o amser nac egni.”

  • Sut rydych chi’n teimlo am hynny?

CRYNODEB

I gael y gorau o’r Beibl, neilltuwch amser i’w ddarllen, gweddïwch am help i’w ddeall, a pharatowch ar gyfer eich sesiynau astudio.

Adolygu

  • Beth fydd yn eich helpu chi i elwa fwyaf ar ddarllen y Beibl?

  • Pryd gallwch chi neilltuo amser i ddarllen ac astudio’r Beibl?

  • Pam mae’n werth paratoi ar gyfer eich sesiynau astudio’r Beibl?

Nod

DARGANFOD MWY

Adolygwch rai syniadau a fydd yn eich helpu chi i gael y budd mwyaf o ddarllen y Beibl.

“Sut i Elwa’n Fwy o Ddarllen y Beibl” (Erthygl o’r Tŵr Gwylio)

Gwelwch dair ffordd wahanol i ddarllen y Beibl.

“Sut Gall y Beibl Fy Helpu I?—Rhan 1: Dod i ’Nabod Dy Feibl” (Erthygl ar jw.org)

Gwelwch sut i fwynhau darllen y Beibl.

“Sut Gall y Beibl Fy Helpu I?—Rhan 2: Mwynhau Darllen y Beibl”(Erthygl ar jw.org)

Gwrandewch ar awgrymiadau pobl sydd wedi bod yn darllen y Beibl am flynyddoedd.

Astudio’r Beibl yn Effeithiol (2:06)

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu