CÂN 108
Cariad Ffyddlon Duw
(Eseia 55:1-3)
1. Cariad Duw, ffyddlon yw.
Gwelwn gariad ffyddlon ein Duw—
Ef a roddodd ei Fab i’r byd,
Ef a dalodd y pridwerth drud.
Ef sy’n gollwng dynolryw’n rhydd,
Ef sy’n addo cawn fyw hyd byth.
(CYTGAN)
Hei! Oes syched arnoch chi?
Dŵr a gewch i’ch cadw’n fyw.
Dewch! Mae’r dŵr ar gael am ddim
Drwy gariad ffyddlon Duw.
2. Cariad Duw, ffyddlon yw.
Does dim gwell na chariad ein Duw—
Rhoddodd goron i Iesu Grist,
Brenin nerthol yw’r Ffyddlon Dyst.
Nawr, mae’r Deyrnas hon yn y nef
Yn amlygu ei gariad Ef.
(CYTGAN)
Hei! Oes syched arnoch chi?
Dŵr a gewch i’ch cadw’n fyw.
Dewch! Mae’r dŵr ar gael am ddim
Drwy gariad ffyddlon Duw.
3. Cariad Duw, ffyddlon yw.
Efelychwn gariad ein Duw—
I’r sychedig rhown ddŵr yn hael,
Mae digonedd o fwyd ar gael.
At ddŵr bywyd rhaid iddynt ddod,
Cariad ffyddlon Duw gânt yn rhodd.
(CYTGAN)
Hei! Oes syched arnoch chi?
Dŵr a gewch i’ch cadw’n fyw.
Dewch! Mae’r dŵr ar gael am ddim
Drwy gariad ffyddlon Duw.
(Gweler hefyd Salm 33:5; 57:10; Eff. 1:7.)