LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • lmd gwers 3
  • Caredigrwydd

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Caredigrwydd
  • Caru Pobl—Gwneud Disgyblion
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • Esiampl Iesu
  • Beth Rydyn Ni’n Ei Ddysgu o Esiampl Iesu?
  • Dilyna Esiampl Iesu
  • Dangos Diddordeb
    Caru Pobl—Gwneud Disgyblion
  • Gad i Gyfraith Caredigrwydd Dy Gymell Di
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2022
  • Cydymdeimlad
    Caru Pobl—Gwneud Disgyblion
  • Naturioldeb
    Caru Pobl—Gwneud Disgyblion
Gweld Mwy
Caru Pobl—Gwneud Disgyblion
lmd gwers 3

DECHRAU SGWRS

Iesu’n mynd at ddyn dall mewn ffordd dyner er mwyn ei iacháu.

Ioan 9:​1-7

GWERS 3

Caredigrwydd

Egwyddor: ‘Mae cariad yn garedig.’—1 Cor. 13:4.

Esiampl Iesu

Iesu’n mynd at ddyn dall mewn ffordd dyner er mwyn ei iacháu.

FIDEO: Iesu’n Iacháu Dyn Dall

1. Gwylia’r FIDEO, neu darllena Ioan 9:​1-7. Yna ystyria’r cwestiynau canlynol:

  1. Beth wnaeth Iesu yn gyntaf—iacháu’r dyn dall neu sôn wrtho am y newyddion da?—Gweler Ioan 9:​35-38.

  2. Pam rwyt ti’n meddwl bod y dyn yn fodlon gwrando ar Iesu?

Beth Rydyn Ni’n Ei Ddysgu o Esiampl Iesu?

2. Bydd rhywun yn fwy tebygol o wrando ar ein neges os yw’n teimlo bod gynnon ni ddiddordeb ynddo.

Dilyna Esiampl Iesu

3. Dangosa gydymdeimlad. Ceisia ddychmygu sut mae’r person yn teimlo.

  1. Gofynna i ti dy hun: ‘Beth sy’n ei boeni? Beth fyddai’n apelio ato neu’n ei helpu?’ Bydd gwneud hyn yn dy helpu di i fod yn garedig mewn ffordd naturiol a diffuant.

  2. Gwranda arno. Drwy wneud hyn rwyt ti’n dangos bod ei bryderon yn bwysig i ti. Os bydd rhywun yn sôn am ei deimladau neu am un o’i broblemau, paid â newid pwnc y sgwrs.

4. Siarada yn garedig a dangosa barch. Pan wyt ti’n teimlo dros rywun ac eisiau ei helpu, bydd hynny’n dangos yn y ffordd rwyt ti’n siarad. Dewisa dy eiriau a thôn dy lais yn ofalus, a phaid â dweud pethau a allai pechu rhywun.

5. Bydda’n barod dy gymwynas. Chwilia am gyfle i helpu’r person mewn ffyrdd ymarferol. Gall caredigrwydd agor y drws i sgwrs.

GWELER HEFYD

Rhuf. 12:​15, 16; Gal. 6:10; Heb. 13:16.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu