Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud am Drychinebau Naturiol?
Ateb y Beibl
Nid yw Duw yn achosi’r trychinebau naturiol sy’n digwydd heddiw, ond y mae’n caru’r bobl sy’n dioddef o’u herwydd. Bydd Teyrnas Dduw yn dileu popeth sy’n achosi dioddefaint, gan gynnwys trychinebau naturiol. Yn y cyfamser mae Duw yn cynnig cysur i’r rhai sy’n dioddef.—2 Corinthiaid 1:3.
Pam gallwn ni fod yn sicr nad cosb gan Dduw yw trychinebau naturiol?
Sut mae Duw yn helpu’r rhai sy’n dioddef o ganlyniad i drychinebau naturiol?
Ydy’r Beibl yn ein helpu i fod yn barod ar gyfer trychinebau naturiol?
Pam gallwn ni fod yn sicr nad cosb gan Dduw yw trychinebau naturiol?
Rydyn ni’n gwybod o’r Beibl bod Jehofa wedi defnyddio grymoedd natur yn y gorffennol i weithredu ei farn. Ond mae hynny yn wahanol i’r ffordd y mae trychinebau naturiol yn taro.
Mae trychinebau naturiol yn lladd ac yn anafu’r da a’r drwg. Ar y llaw arall, pan oedd Duw yn defnyddio grymoedd natur, dim ond pobl ddrwg oedd yn cael eu dinistrio. Er enghraifft, pan ddinistriodd Duw ddinasoedd Sodom a Gomorra gynt, achubodd y dyn da Lot a’i ddwy ferch. (Genesis 19:29, 30) Edrychodd Duw ar galonnau unigolion a dinistrio dim ond y rhai yr oedd ef yn eu barnu’n ddrwg.—Genesis 18:23-32; 1 Samuel 16:7.
Fel arfer mae trychinebau naturiol yn taro yn ddirybudd. Ar y llaw arall, roedd Duw yn rhybuddio pobl ddrwg cyn iddo ddefnyddio grym natur yn eu herbyn. Roedd cyfle ganddyn nhw i wrando ar y rhybuddion ac osgoi’r trychineb.—Genesis 7:1-5; Mathew 24:38, 39.
I ryw raddau mae bodau dynol wedi cyfrannu at drychinebau naturiol. Ym mha ffordd? Drwy ddifetha’r amgylchedd a chodi adeiladau mewn ardaloedd lle mae daeargrynfeydd, llifogydd a thywydd eithafol yn debygol o ddigwydd. (Datguddiad 11:18) Nid yw Duw ar fai am ganlyniadau’r dewisiadau hyn.—Diarhebion 19:3.
A yw trychinebau naturiol yn un o arwyddion yr oes?
Ydyn. Mae proffwydoliaethau yn y Beibl yn dweud y byddai trychinebau yn digwydd yn ystod “y cyfnod olaf.” (Mathew 24:3; 2 Timotheus 3:1) Er enghraifft, wrth sôn am ein hoes ni, dywedodd Iesu: “Bydd newyn mewn gwahanol leoedd, a daeargrynfeydd.” (Mathew 24:7) Yn fuan iawn, bydd Duw yn dileu popeth sy’n achosi poen a dioddefaint, gan gynnwys trychinebau naturiol.—Datguddiad 21:3, 4.
Sut mae Duw yn helpu’r rhai sy’n dioddef o ganlyniad i drychinebau naturiol?
Mae Duw yn cysuro pobl drwy ei Air, y Beibl. Mae’r Beibl yn dweud yn glir bod Duw yn ein caru ni ac yn teimlo ein poen. (Eseia 63:9; 1 Pedr 5:6, 7) Mae hefyd yn addo y daw amser pan na fydd trychinebau naturiol yn digwydd mwyach.—Gweler “Adnodau o’r Beibl i gysuro’r rhai sy’n dioddef.”
Mae Duw yn defnyddio ei addolwyr i helpu pobl. Mae Duw yn dysgu ei addolwyr ar y ddaear i ddilyn esiampl Iesu. Roedd y Beibl yn proffwydo y byddai Iesu yn cysuro “y rhai sydd wedi torri eu calonnau” a’r “rhai sy’n galaru.” (Eseia 61:1, 2) Mae addolwyr Duw yn ceisio gwneud yr un fath.—Ioan 13:15.
Mae Duw hefyd yn defnyddio ei addolwyr i roi cymorth ymarferol i’r rhai sy’n dioddef o ganlyniad i drychinebau naturiol.—Actau 11:28-30; Galatiaid 6:10.
Tystion Jehofa yn rhoi cymorth ymarferol i bobl ar ôl corwynt yn Puerto Rico
Ydy’r Beibl yn ein helpu i fod yn barod ar gyfer trychinebau naturiol?
Ydy. Nid llawlyfr paratoi ar gyfer trychinebau yw’r Beibl ond mae’n cynnig egwyddorion a all fod yn help mawr. Er enghraifft:
Cynlluniwch o flaen llaw ar gyfer trychinebau posib. “Mae’r person call yn gweld problem ac yn ei hosgoi,” meddai’r Beibl. (Diarhebion 22:3) Peth call yw gwneud cynllun argyfwng o flaen llaw. Gall hyn gynnwys paratoi bag argyfwng a fydd yn barod i’w godi, ac ymarfer gyda’ch teulu lle y byddwch yn cyfarfod mewn achos brys.
Cofiwch fod bywyd yn bwysicach nag eiddo. Mae’r Beibl yn dweud: “Doedd gynnon ni ddim pan gawson ni ein geni, a fyddwn ni’n gallu mynd â dim byd gyda ni pan fyddwn ni farw.” (1 Timotheus 6:7, 8) Mae angen bod yn barod i adael ein cartrefi a’n heiddo er mwyn dianc rhag trychineb. Call yw cofio bod ein bywydau yn werth llawer mwy nag unrhyw bethau materol.—Mathew 6:25.