Ydy Pob Crefydd yr Un Fath yn y Bôn? Ydyn Nhw i Gyd yn Arwain at Dduw?
Ateb y Beibl
Nac ydyn, dydy pob crefydd ddim yr un fath. Mae ’na lawer o esiamplau yn y Beibl o grefyddau sydd ddim yn plesio Duw. Mae’r rhain yn syrthio i ddau gategori sylfaenol.
Categori 1: Addoli gau dduwiau
Mae’r Beibl yn disgrifio addoli gau dduwiau gyda geiriau fel “yn dda i ddim!“ a “diwerth.” (Jeremeia 10:3-5; 16:19, 20) Gorchmynnodd Jehofaa Dduw i genedl Israel gynt: “Does dim duwiau eraill i fod gen ti, dim ond fi.” (Exodus 20:3, 23; 23:24) “Roedd yr ARGLWYDD wedi gwylltio’n lân” pan addolodd yr Israeliaid dduwiau eraill.—Numeri 25:3; Lefiticus 20:2; Barnwyr 2:13, 14.
Mae Duw yn dal i deimlo’r un ffordd tuag at addoliad y rhai “sy’n cael eu galw’n ‘dduwiau.’“ (1 Corinthiaid 8:5, 6; Galatiaid 4:8) Mae ef yn gorchymyn i’r rhai sydd eisiau ei addoli i stopio cymdeithasu â’r rhai sy’n arfer gau grefydd, gan ddweud: “Dewch allan o’u canol nhw a bod yn wahanol.” (2 Corinthiaid 6:14-17) Os ydy pob crefydd yr un fath ac yn arwain pobl at Dduw, yna pam fyddai Duw yn rhoi’r fath orchymyn?
Categori 2: Addoli’r gwir Dduw mewn ffordd sy’n annerbyniol iddo
Ar adegau, roedd yr Israeliaid yn addoli Duw gan ddefnyddio daliadau ac arferion oedd yn deillio o addoli gau dduwiau, ond gwrthododd Jehofa yr ymgais i gymysgu gwir grefydd â gau grefydd. (Exodus 32:8; Deuteronomium 12:2-4) Gwnaeth Iesu gondemnio arweinwyr crefyddol ei ddydd oherwydd y ffordd roedden nhw’n addoli Duw. Yn gwbl ddauwynebog, roedden nhw’n wneud sioe allanol o’i addoli, ond yn “talu dim sylw i faterion pwysica’r Gyfraith,” sef “byw’n gyfiawn, bod yn drugarog ac yn ffyddlon i Dduw.”—Mathew 23:23.
Mae’r un peth yn wir heddiw, dim ond crefydd wedi ei seilio ar wirionedd sy’n arwain pobl at Dduw. Mae’r gwirionedd hwnnw i’w weld yn y Beibl. (Ioan 4:24; 17:17; 2 Timotheus 3:16, 17) Mae crefyddau sy’n dysgu pethau sy’n groes i’r Beibl yn troi pobl oddi wrth Dduw. Cafodd llawer o ddysgeidiaethau y mae pobl yn meddwl eu bod nhw’n dod o’r Beibl—gan gynnwys y Drindod, anfarwoldeb yr enaid, ac artaith am byth—eu benthyg oddi wrth addolwyr gau dduwiau. Mae addoliad sy’n hyrwyddo dysgeidiaethau fel hyn “yn ddiystyr,” am eu bod nhw’n disodli gofynion Duw â thraddodiadau crefyddol.—Marc 7:7, 8.
Mae Duw yn casáu rhagrith crefyddol. (Titus 1:16) Er mwyn helpu pobl i nesáu at Dduw, dylai crefydd effeithio ar eu bywydau bob dydd yn lle bod yn ddefodau a thraddodiadau yn unig. Er enghraifft, mae’r Beibl yn dweud: “Os ydy rhywun yn meddwl ei fod yn dduwiol ond ddim yn gallu rheoli ei dafod, mae’n twyllo’i hun—dydy crefydd rhywun felly yn dda i ddim. Y math o grefydd mae Duw y Tad yn ei ystyried yn bur ac yn ddilys ydy’r grefydd sy’n gofalu am blant amddifad a gwragedd gweddwon sy’n dioddef, ac sy’n gwrthod dylanwad y byd.” (Iago 1:26, 27) Mae’r Beibl Cysegr-lân yn defnyddio’r ymadrodd “crefydd bur” ar gyfer yr addoliad glân a diragrith hwn.
a Yn ôl y Beibl, Jehofa yw enw’r gwir Dduw.