LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • ijwbq erthygl 157
  • Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud am Drychinebau Naturiol?

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud am Drychinebau Naturiol?
  • Atebion i Gwestiynau am y Beibl
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • Ateb y Beibl
  • Pam gallwn ni fod yn sicr nad cosb gan Dduw yw trychinebau naturiol?
  • A yw trychinebau naturiol yn un o arwyddion yr oes?
  • Sut mae Duw yn helpu’r rhai sy’n dioddef o ganlyniad i drychinebau naturiol?
  • Ydy’r Beibl yn ein helpu i fod yn barod ar gyfer trychinebau naturiol?
  • Cyflwyniadau Enghreifftiol
    Ein Gweinidogaeth—2011
Atebion i Gwestiynau am y Beibl
ijwbq erthygl 157
Teulu yn edrych dros ardal sydd wedi ei difetha gan drychineb naturiol

Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud am Drychinebau Naturiol?

Ateb y Beibl

Nid yw Duw yn achosi’r trychinebau naturiol sy’n digwydd heddiw, ond y mae’n caru’r bobl sy’n dioddef o’u herwydd. Bydd Teyrnas Dduw yn dileu popeth sy’n achosi dioddefaint, gan gynnwys trychinebau naturiol. Yn y cyfamser mae Duw yn cynnig cysur i’r rhai sy’n dioddef.​—2 Corinthiaid 1:3.

  • Pam gallwn ni fod yn sicr nad cosb gan Dduw yw trychinebau naturiol?

  • A yw trychinebau naturiol yn un o arwyddion yr oes?

  • Sut mae Duw yn helpu’r rhai sy’n dioddef o ganlyniad i drychinebau naturiol?

  • Ydy’r Beibl yn ein helpu i fod yn barod ar gyfer trychinebau naturiol?

  • Adnodau o’r Beibl i gysuro’r rhai sy’n dioddef

Pam gallwn ni fod yn sicr nad cosb gan Dduw yw trychinebau naturiol?

Rydyn ni’n gwybod o’r Beibl bod Jehofa wedi defnyddio grymoedd natur yn y gorffennol i weithredu ei farn. Ond mae hynny yn wahanol i’r ffordd y mae trychinebau naturiol yn taro.

  • Mae trychinebau naturiol yn lladd ac yn anafu’r da a’r drwg. Ar y llaw arall, pan oedd Duw yn defnyddio grymoedd natur, dim ond pobl ddrwg oedd yn cael eu dinistrio. Er enghraifft, pan ddinistriodd Duw ddinasoedd Sodom a Gomorra gynt, achubodd y dyn da Lot a’i ddwy ferch. (Genesis 19:29, 30) Edrychodd Duw ar galonnau unigolion a dinistrio dim ond y rhai yr oedd ef yn eu barnu’n ddrwg.​—Genesis 18:23-​32; 1 Samuel 16:7.

  • Fel arfer mae trychinebau naturiol yn taro yn ddirybudd. Ar y llaw arall, roedd Duw yn rhybuddio pobl ddrwg cyn iddo ddefnyddio grym natur yn eu herbyn. Roedd cyfle ganddyn nhw i wrando ar y rhybuddion ac osgoi’r trychineb.​—Genesis 7:​1-5; Mathew 24:38, 39.

  • I ryw raddau mae bodau dynol wedi cyfrannu at drychinebau naturiol. Ym mha ffordd? Drwy ddifetha’r amgylchedd a chodi adeiladau mewn ardaloedd lle mae daeargrynfeydd, llifogydd a thywydd eithafol yn debygol o ddigwydd. (Datguddiad 11:18) Nid yw Duw ar fai am ganlyniadau’r dewisiadau hyn.​—Diarhebion 19:3.

A yw trychinebau naturiol yn un o arwyddion yr oes?

Ydyn. Mae proffwydoliaethau yn y Beibl yn dweud y byddai trychinebau yn digwydd yn ystod “y cyfnod olaf.” (Mathew 24:3; 2 Timotheus 3:1) Er enghraifft, wrth sôn am ein hoes ni, dywedodd Iesu: “Bydd newyn mewn gwahanol leoedd, a daeargrynfeydd.” (Mathew 24:7) Yn fuan iawn, bydd Duw yn dileu popeth sy’n achosi poen a dioddefaint, gan gynnwys trychinebau naturiol.​—Datguddiad 21:​3, 4.

Sut mae Duw yn helpu’r rhai sy’n dioddef o ganlyniad i drychinebau naturiol?

  • Mae Duw yn cysuro pobl drwy ei Air, y Beibl. Mae’r Beibl yn dweud yn glir bod Duw yn ein caru ni ac yn teimlo ein poen. (Eseia 63:9; 1 Pedr 5:​6, 7) Mae hefyd yn addo y daw amser pan na fydd trychinebau naturiol yn digwydd mwyach.​—Gweler “Adnodau o’r Beibl i gysuro’r rhai sy’n dioddef.”

  • Mae Duw yn defnyddio ei addolwyr i helpu pobl. Mae Duw yn dysgu ei addolwyr ar y ddaear i ddilyn esiampl Iesu. Roedd y Beibl yn proffwydo y byddai Iesu yn cysuro “y rhai sydd wedi torri eu calonnau” a’r “rhai sy’n galaru.” (Eseia 61:​1, 2) Mae addolwyr Duw yn ceisio gwneud yr un fath.​—Ioan 13:15.

    Mae Duw hefyd yn defnyddio ei addolwyr i roi cymorth ymarferol i’r rhai sy’n dioddef o ganlyniad i drychinebau naturiol.​—Actau 11:28-30; Galatiaid 6:​10.

Tystion Jehofa yn trwsio tŷ yn Puerto Rico

Tystion Jehofa yn rhoi cymorth ymarferol i bobl ar ôl corwynt yn Puerto Rico

Ydy’r Beibl yn ein helpu i fod yn barod ar gyfer trychinebau naturiol?

Ydy. Nid llawlyfr paratoi ar gyfer trychinebau yw’r Beibl ond mae’n cynnig egwyddorion a all fod yn help mawr. Er enghraifft:

  • Cynlluniwch o flaen llaw ar gyfer trychinebau posib. “Mae’r person call yn gweld problem ac yn ei hosgoi,” meddai’r Beibl. (Diarhebion 22:3) Peth call yw gwneud cynllun argyfwng o flaen llaw. Gall hyn gynnwys paratoi bag argyfwng a fydd yn barod i’w godi, ac ymarfer gyda’ch teulu lle y byddwch yn cyfarfod mewn achos brys.

  • Cofiwch fod bywyd yn bwysicach nag eiddo. Mae’r Beibl yn dweud: “Doedd gynnon ni ddim pan gawson ni ein geni, a fyddwn ni’n gallu mynd â dim byd gyda ni pan fyddwn ni farw.” (1 Timotheus 6:​7, 8) Mae angen bod yn barod i adael ein cartrefi a’n heiddo er mwyn dianc rhag trychineb. Call yw cofio bod ein bywydau yn werth llawer mwy nag unrhyw bethau materol.​—Mathew 6:​25.

Adnodau o’r Beibl i gysuro’r rhai sy’n dioddef

Genesis 18:25: “Alla i ddim credu y byddet ti’n . . . lladd pobl dduwiol hefo pobl ddrwg . . . Fyddet ti byth yn gwneud hynny! Onid ydy Barnwr y byd yn gwneud beth sy’n iawn?”

Ystyr: Mae Duw bob amser yn gwneud yr hyn sy’n iawn; nid ef sydd ar fai pan fydd pobl dda yn marw mewn trychinebau naturiol.

Salm 46:​1, 2, Beibl Cymraeg Diwygiedig: “Y mae Duw yn noddfa ac yn nerth i ni, yn gymorth parod mewn cyfyngder. Felly, nid ofnwn er i’r ddaear symud ac i’r mynyddoedd ddisgyn i ganol y môr.”

Ystyr: Ni waeth beth sy’n digwydd o’n cwmpas, gallwn ddibynnu ar Dduw am nerth.

Eseia 63:9: “Pan oedden nhw’n diodde roedd e’n diodde hefyd.”

Ystyr: Mae Duw yn teimlo ein poen pan fyddwn ni’n dioddef.

Ioan 5:​28, 29: “Peidiwch rhyfeddu at hyn! Mae’r amser yn dod pan fydd pawb sy’n eu beddau yn clywed llais Mab Duw ac yn dod allan.”

Ystyr: Gallwn edrych ymlaen at weld ein hanwyliaid eto oherwydd y bydd Duw yn rhoi’r gallu i Iesu i’w hatgyfodi.

1 Pedr 5:​6, 7, BCND: “Ymddarostyngwch, gan hynny, dan law gadarn Duw . . . Bwriwch eich holl bryder arno ef, oherwydd y mae gofal ganddo amdanoch.”

Ystyr: Mae Duw yn ein caru ni’n fawr ac yn awyddus inni weddïo arno am ein pryderon.

Datguddiad 21:4: “Bydd [Duw] yn sychu pob deigryn o’u llygaid nhw. Fydd dim marwolaeth o hyn ymlaen, dim galaru, dim wylo, dim poen. Mae pethau fel roedden nhw wedi mynd.”

Ystyr: Bydd Duw yn dileu popeth sy’n achosi dioddefaint, gan gynnwys trychinebau naturiol.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu