LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • ijwhf erthygl 10
  • Sut i Gadw Technoleg yn ei Lle

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Sut i Gadw Technoleg yn ei Lle
  • Help ar Gyfer y Teulu
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • Beth ddylech chi ei wybod?
  • Beth allwch chi ei wneud?
  • Sut Mae Technoleg yn Effeithio ar Eich Priodas?
    Deffrwch!—2021
  • Sut i Adael Gwaith yn y Gweithle
    Help ar Gyfer y Teulu
  • “Bydded Priodas Mewn Parch”
    “Cadwch Eich Hunain yng Nghariad Duw”
  • Yn y Rhifyn Hwn
    Deffrwch!—2021
Gweld Mwy
Help ar Gyfer y Teulu
ijwhf erthygl 10
Gŵr a gwraig ill dau ar y ffôn wrth gael pryd o fwyd.

HELP AR GYFER Y TEULU | PRIODAS

Sut i Gadw Technoleg yn ei Lle

Mae’r ffordd rydych chi’n defnyddio technoleg yn gallu cryfhau eich priodas neu ei gwanhau. Sut mae’n effeithio ar eich priodas chi?

  • Beth ddylech chi ei wybod?

  • Beth allwch chi ei wneud?

  • Sylwadau cyplau priod

  • Cwestiynau i’w trafod

Beth ddylech chi ei wybod?

  • O’i defnyddio’n gall, mae technoleg yn gallu bod o les mewn priodas. Er enghraifft, mae rhai gwŷr a gwragedd yn ei defnyddio i gadw mewn cyswllt yn ystod y dydd.

    Gŵr yn anfon neges destun gariadus at ei wraig yn ystod y dydd.

    “Mae derbyn neges destun sy’n dweud ‘Dw i’n dy garu di’ neu ‘Meddwl amdanat ti’ yn golygu llawer.”—Jonathan.

  • Gall defnyddio technoleg yn ddifeddwl danseilio priodas. Er enghraifft, mae rhai pobl yn edrych ar eu tabledi a’u ffonau o hyd, ac mae hynny yn lleihau’r amser a’r sylw y maen nhw’n eu rhoi i’w partneriaid.

    “Dw i’n siŵr bu adegau pan oedd fy ngŵr eisiau siarad â fi ond wedi dweud dim oherwydd fy mod i ar fy ffôn.”—Julissa.

  • Mae rhai’n dweud eu bod nhw’n gallu defnyddio tabled neu ffôn a chael sgwrs dda yr un pryd. Ond yn ôl y cymdeithasegydd Sherry Turkle, “myth yw’r syniad y gallwch wneud mwy nag un peth ar yr un pryd.” Mae’n debyg nad rhinwedd bur felly yw’r gallu hwn. Mewn gwirionedd, “mae ein perfformiad yn gwaethygu bob tro rydyn ni’n ychwanegu tasg,” meddai hi.a

    “Dw i wrth fy modd yn cael sgwrs gyda fy ngŵr, ond nid pan fydd o’n edrych ar ei dabled neu ei ffôn. Mae hynny yn dweud wrtho i y byddai’r un mor hapus yng nghwmni ei ddyfais yn unig.”—Sarah.

Y gwir yw: Mae’r ffordd rydych chi’n defnyddio technoleg yn gallu cryfhau neu wanhau eich priodas.

Beth allwch chi ei wneud?

Gosodwch flaenoriaethau. Mae’r Beibl yn ein cynghori i “ddewis y peth gorau i’w wneud bob amser.” (Philipiaid 1:10) Gofynnwch, ‘Ydy’r amser a’r sylw rydyn ni’n eu rhoi i’n dyfeisiau yn llyncu’r amser a’r sylw y dylen ni eu rhoi i’n gilydd?’

“Peth trist yw gweld dyn a dynes mewn tŷ bwyta a’r ddau ynghlwm wrth eu ffonau. Dydyn ni ddim eisiau bod yn gaeth i dechnoleg ac anghofio’r peth pwysicaf—y berthynas rhyngon ni.”—Matthew.

Gosodwch derfynau. Mae’r Beibl yn dweud: “Felly, gwyliwch sut dych chi’n ymddwyn. . . . Manteisiwch ar bob cyfle gewch chi i wneud daioni.” (Effesiaid 5:15, 16) Gofynnwch, ‘A fedra’ i neilltuo amser penodol i ddarllen ac ateb negeseuon di-frys, yn lle delio’n awtomatig â phob un wrth iddi gyrraedd?’

“Mae’n help os ydw i’n gosod y ffôn ar y modd distaw ac wedyn ateb negeseuon ar adeg fwy cyfleus. Anaml iawn y bydd galwad, neges destun, neu e-bost mor ofnadwy o bwysig nes bod angen ymateb ar unwaith.”—Jonathan.

Gadewch eich gwaith yn y gwaith, os yw’n bosib. Mae’r Beibl yn dweud bod “amser penodol i bopeth.” (Pregethwr 3:1) Gofynnwch i chi’ch hun: ‘Ydy fy ngwaith yn tarfu ar ein bywyd teuluol drwy gyfrwng fy ffôn? Os felly, sut mae hynny yn effeithio ar fy mhriodas? Beth fyddai fy mhriod yn ei ddweud?’

“Drwy dechnoleg, rydyn ni’n gallu gweithio unrhyw adeg o’r dydd a’r nos. Dw i wedi gorfod gwneud ymdrech arbennig i beidio ag edrych ar y ffôn a delio â phroblemau gwaith pan fydda’ i efo fy ngwraig.”—Matthew.

Trafodwch eich defnydd o dechnoleg gyda’ch priod. Mae’r Beibl yn dweud: “Ddylen ni ddim ceisio’n lles ein hunain, ond lles pobl eraill.” (1 Corinthiaid 10:24) Siaradwch â’ch priod am y ffordd rydych chi’ch dau yn defnyddio technoleg, ac am unrhyw newidiadau sydd angen eu gwneud. Gallwch ddefnyddio’r cwestiynau i’w trafod yn yr erthygl hon i roi cychwyn ar y sgwrs.

“Mae fy ngŵr a fi’n onest iawn gyda’n gilydd, ac os ydyn ni’n teimlo bod y llall yn defnyddio gormod ar ei ffôn neu dabled, fe fyddwn ni’n sôn am y peth. Rydyn ni’n dau yn cydnabod y broblem, felly rydyn ni’n ystyried safbwyntiau ein gilydd yn ofalus.”—Danielle.

Y gwir yw: Sicrhewch fod technoleg yn was ichi ac nid yn feistr arnoch chi.

Sylwadau cyplau priod

Trista a Georgel.

“Gyda’r nos rydyn ni’n hoffi siarad am y diwrnod, ond byddai sbio ar ein ffonau drwy’r amser yn difetha hynny. Mae cymaint o alwadau arnon ni fel y mae hi. Yn lle gwastraffu ein hamser yn syllu ar sgrin, gallwn dreulio ein hamser yn agosáu at ein cymar.—Trista, gyda’i gŵr, Georgel.

Jonathan a Katelyn.

“Mae eich cymar yn haeddu eich sylw llawn. Bydd rhyw neges destun, e-bost neu bwt o newyddion yn cyrraedd byth a beunydd. Ond fel arfer gall aros. Fyddech chi ddim yn tecstio wrth yrru’r car oherwydd y peryg i’ch bywyd, felly pam fyddech chi’n defnyddio eich dyfais mewn ffordd a allai beryglu eich priodas?’—Jonathan, gyda’i wraig, Katelyn.

Cwestiynau i’w trafod

Yn gyntaf, ystyriwch y cwestiynau canlynol ar eich pen eich hun. Yna trafodwch eich atebion gyda’ch gilydd.

  • Ym mha ffordd, os o gwbl, mae defnyddio technoleg wedi gwella eich perthynas?

  • Ydych chi’n teimlo bod y ffordd y mae eich priod yn defnyddio technoleg wedi creu anawsterau yn eich perthynas? Os felly, ym mha ffordd?

  • Ydych chi’n meddwl y byddai eich priod yn dweud bod eich defnydd chi o dechnoleg yn creu anawsterau yn eich perthynas? Os felly, ym mha ffordd?

  • A oes rhesymau pam mae angen ichi fod ar gael drwy’r amser i dderbyn neu i ateb negeseuon? Os felly, sut gellir datrys unrhyw anawsterau sy’n deillio o hyn?

  • Pa newidiadau, os o gwbl, hoffech chi neu eich priod eu gweld o ran eich defnydd o dechnoleg?

Adolygu: Sut i Gadw Technoleg yn ei Lle

Gosodwch flaenoriaethau. Peidiwch ag anghofio’r peth pwysicaf—eich priodas.

Gosodwch derfynau. A fedrwch chi neilltuo amser penodol i ddarllen ac ateb negeseuon, yn lle delio’n awtomatig â phob un wrth iddi gyrraedd?

Gadewch eich gwaith yn y gwaith, os yw’n bosib. Ydy’r ffaith ei bod hi’n bosib ichi fod ar gael bob awr o’r dydd a’r nos yn golygu y dylech chi fod ar gael?

Trafodwch eich defnydd o dechnoleg gyda’ch priod. Sut mae’r ffordd rydych chi’n defnyddio technoleg yn effeithio ar eich perthynas? Pa newidiadau, os o gwbl, y dylid eu gwneud?

a O’r llyfr Reclaiming Conversation—The Power of Talk in a Digital Age.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu