LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • w20 Mawrth t. 30
  • Oeddet Ti’n Gwybod?

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Oeddet Ti’n Gwybod?
  • Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2020
  • Erthyglau Tebyg
  • O’r Dilyw hyd at y Waredigaeth o’r Aifft
    Storïau o’r Beibl
  • Symud i’r Aifft
    Storïau o’r Beibl
  • Brenin Drwg yn yr Aifft
    Storïau o’r Beibl
Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2020
w20 Mawrth t. 30
Joseff yn cerdded gyda mintai o Fidianiaid ar eu ffordd i’r Aifft.

Oeddet Ti’n Gwybod?

Heblaw am y Beibl, pa dystiolaeth sy’n dangos bod yr Israeliaid wedi bod yn gaethweision yn yr Aifft?

Yn ôl y Beibl, ar ôl i’r Midianiaid gymryd Joseff i’r Aifft, symudodd Jacob a’i deulu o Ganaan i’r Aifft. Fe wnaethon nhw ymgartrefu yn ardal Gosen yr Aifft, yn Nelta Afon Nîl. (Gen. 47:1, 6) Roedd eu “disgynyddion, pobl Israel, yn cael mwy a mwy o blant. Roedd cymaint ohonyn nhw roedden nhw’n cael eu gweld fel bygythiad.” Felly, daeth yr Eifftiaid i ofni’r Israeliaid a chawson nhw eu gorfodi i fod yn gaethweision.—Ex. 1:7-14.

Mae rhai beirniaid cyfoes wedi gwawdio’r hanesyn Beiblaidd uchod, gan gyfeirio ato fel myth. Eto i gyd, mae tystiolaeth yn bodoli fod y Semitiaida wedi bod yn gaethweision yn yr hen Aifft.

Er enghraifft, mae archaeolegwyr wedi datgloddio hen bentrefi yng ngogledd yr Aifft. Dywed Dr John Bimson fod ’na dystiolaeth o 20 neu fwy o aneddleoedd Semitaidd yn y rhan honno o ogledd yr Aifft. Ymhellach, dywed yr Eifftolegwr James K Hoffmeier: “Rhwng tua 1800 a 1540 COG, roedd yr Aifft yn lle deniadol i bobl Semitig eu hiaith ymfudo iddo o orllewin Asia.” Mae’n ychwanegu: “Mae’r cyfnod hwn yn cydredeg â’r ‘Cyfnod Patriarchaidd’ traddodiadol, ac felly yn cyd-fynd â’r amser a’r amgylchiadau a ddisgrifir yn Genesis.”

Cawn fwy o dystiolaeth o dde’r Aifft. Mae papyrws sy’n dyddio i’r Deyrnas Ganol (tua 2000–tua 1600 COG) yn cynnwys enwau caethweision oedd yn gweithio i deulu yn ne’r Aifft. Mae mwy na 40 o’r enwau hynny yn Semitig. Gweithiai’r caethweision, neu weision, hyn fel cogyddion, gwehyddion, a llafurwyr. Yn ôl Hoffmeier: “Gan fod mwy na phedwar deg o Semitiaid yn gweithio i un teulu yn y Thebaid [de’r Aifft], mae’n debygol fod nifer y Semitiaid ar draws yr Aifft, ac yn enwedig yn y Delta, yn sylweddol.”

Dywed yr archaeolegwr David Rohl fod rhai o enwau’r caethweision ar y rhestr fel petasen nhw’n “neidio’n syth allan o dudalennau’r Beibl.” Er enghraifft, mae’r dernynnau’n cynnwys enwau sy’n debyg i Issachar, Asher, a Shiffra. (Ex. 1:3, 4, 15) “Dyma dystiolaeth glir fod yr Israeliaid wedi bod yn gaethweision yn yr Aifft,” meddai Rohl.

Dywed Dr Bimson: “Mae gan draddodiadau’r Beibl am gaethwasiaeth yn yr Aifft, ac am yr Exodus, sylfaen hanesyddol gadarn.”

a Mae’r enw Semitiad yn tarddu o enw Shem, un o dri mab Noa. Yn ôl pob tebyg mae disgynyddion Shem yn cynnwys yr Elamiaid, yr Asyriaid, y Caldeaid cynnar, yr Hebreaid, y Syriaid, ac amryw o lwythau Arabia.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu