RHAN 2
O’r Dilyw hyd at y Waredigaeth o’r Aifft
Dim ond wyth o bobl a oroesodd y Dilyw, ond ymhen amser fe dyfodd y boblogaeth nes bod miloedd ar filoedd yn byw ar y ddaear. Yna, 352 o flynyddoedd ar ôl y Dilyw, cafodd Abraham ei eni. Byddwn ni’n dysgu sut y gwnaeth Duw gadw ei addewid drwy roi mab o’r enw Isaac i Abraham. O’r ddau fab a gafodd Isaac, Jacob oedd yr un a gafodd ei ddewis gan Dduw.
Roedd gan Jacob ddeuddeg mab a nifer o ferched. Roedd meibion Jacob yn casáu eu brawd bach Joseff, ac fe wnaethon nhw ei werthu i fod yn gaethwas yn yr Aifft. Yn nes ymlaen, daeth Joseff yn rheolwr pwysig yn yr Aifft. Pan ddaeth newyn mawr ar yr ardal, rhoddodd Joseff brawf ar ei frodyr i weld a oedden nhw wedi newid eu hagwedd. Yn y pen draw, 290 o flynyddoedd ar ôl i Abraham gael ei eni, symudodd teulu Jacob i’r Aifft.
Roedd teulu Jacob, yr Israeliaid, yn byw yn yr Aifft am 215 o flynyddoedd. Ar ôl i Joseff farw, daethon nhw’n gaethweision. Ymhen amser, cafodd Moses ei eni. Byddai Duw yn defnyddio Moses i arwain yr Israeliaid allan o’r Aifft. Mae RHAN 2 yn adrodd hanes 857 o flynyddoedd.