LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • hdu erthygl 6
  • Gwaith Adeiladu Llwyddiannus cyn y Pandemig

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Gwaith Adeiladu Llwyddiannus cyn y Pandemig
  • Sut Mae Eich Cyfraniadau yn Cael eu Defnyddio
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • Prosiectau ar Gyfer Blwyddyn Wasanaeth 2021
  • Gwaith Adeiladu sy’n Hwyluso’r Gwaith Pregethu
    Sut Mae Eich Cyfraniadau yn Cael eu Defnyddio
  • A Fedri Di Roi o Dy Amser a Dy Egni?
    Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2020
  • Beth Sy’n Digwydd Mewn Swyddfa Gangen?
    Pwy Sy’n Gwneud Ewyllys Jehofa Heddiw?
  • Swyddfeydd Cyfieithu Sydd o Fudd i Filiynau
    Sut Mae Eich Cyfraniadau yn Cael eu Defnyddio
Sut Mae Eich Cyfraniadau yn Cael eu Defnyddio
hdu erthygl 6
Gweithwyr yn gosod arwydd newydd yn swyddfa gangen y Camerŵn.

SUT MAE EICH CYFRANIADAU YN CAEL EU DEFNYDDIO

Gwaith Adeiladu Llwyddiannus cyn y Pandemig

TACHWEDD 1, 2020

Mae cannoedd o filoedd yn cael eu bedyddio bob blwyddyn, felly rydyn ni angen mwy o adeiladau theocrataidd. Oherwydd hyn, gwnaeth Adrannau Dylunio ac Adeiladu’r Canghennau gynllunio i adeiladu ac adnewyddu mwy na 2,700 o addoldai yn ystod blwyddyn wasanaeth 2020.a

Yn anffodus, cafodd y cynlluniau hyn eu rhwystro gan y pandemig COVID-19. Er mwyn gofalu am ein brodyr a’n chwiorydd a dilyn rheolau’r llywodraeth, gwnaeth Pwyllgor Cyhoeddi y Corff Llywodraethol ohirio’r rhan fwyaf o brosiectau adeiladu ar draws y byd. Er hynny, cyn y pandemig, cafodd mwy na 1,700 o addoldai eu hadeiladu neu eu hadnewyddu yn ystod blwyddyn wasanaeth 2020. Hefyd, cafodd dros 100 o brosiectau cangen eu cwblhau. Ystyriwch sut mae’n brodyr wedi elwa ar ddau brosiect adeiladu.

Cangen y Camerŵn. Roedd yr hen gangen yn Douala yn rhy fach ac angen lot o addasiadau. Ystyriodd y Pwyllgor Cyhoeddi adnewyddu’r gangen, ond byddai’r gost wedi bod yn uwch na gwerth yr adeiladau. Hefyd, gwnaethon nhw ystyried y posibilrwydd o adeiladu ar safle newydd neu brynu adeilad a’i adnewyddu, ond daeth y cynlluniau i ddim.

Yn y cyfamser, gwnaeth y brodyr ddysgu bod y llywodraeth leol yn bwriadu adeiladu ffordd wrth ymyl un o’n Neuaddau Cynulliad sydd i’r gogledd o Douala. Byddai’r ffordd yn dod â mynediad gwell a gwasanaethau i’r adeilad. Roedd y gwelliannau hyn yn union beth roedd y gangen ei angen. Felly, gwnaeth y corff llywodraethol gymeradwyo i gangen newydd gael ei hadeiladu ar ran o dir y Neuadd Cynulliad.

Collage: 1. Brodyr yn sefyll ar gyfer ffotograff wrth osod blociau sment. 2. Tri brawd yn paratoi ar gyfer tywallt concrit yn ystod y prosiect.

Brodyr a chwiorydd yn helpu i adeiladu’r gangen newydd yn y Camerŵn

Gweithiodd contractwyr a Thystion gyda’i gilydd ar y prosiect—strategaeth a arbedodd amser ac arian. Mewn gwirionedd, gwnaethon nhw arbed dros ddwy filiwn o ddoleri (UDA) nag y disgwyliwyd ar y prosiect! Roedd y teulu Bethel yn gallu symud i mewn i’r adeiladau newydd yn fuan cyn i COVID-19 gychwyn.

Llun o gangen y Camerŵn o’r awyr.

Cafodd prosiect y gangen yn y Camerŵn ei gyflawni cyn y pandemig COVID-19

Mae gweithwyr Bethel y Camerŵn wedi elwa o gael lle gwell i fyw a gweithio, ac maen nhw’n ystyried y gangen newydd fel anrheg gan Jehofa. Dywed un cwpl, “’Dyn ni eisiau gweithio’n galetach a dangos cymaint rydyn ni’n gwerthfawrogi’r anrheg hon.”

Brodyr a chwiorydd yn gweithio yn eu swyddfa newydd cyn y pandemig

Swyddfa Gyfieithu (RTO) Tojolabal, Mecsico. Am flynyddoedd lawer, mae tîm cyfieithu Tojolabal wedi gweithio yng nghangen Canolbarth America, sy’n agos i Ddinas Mecsico. Ond mae iaith Tojolabal yn cael ei siarad fwyaf yn Altamirano a Las Margaritas—tua 620 milltir (1,000 km) i ffwrdd! O ganlyniad, roedd hi’n anodd i gyfieithwyr Tojolabal ddefnyddio iaith gyfoes. Ac roedd hi’n her i’r gangen ddod o hyd i frodyr a chwiorydd cymwys yn lleol oedd yn gallu helpu gyda’r gwaith o gyfieithu a recordio.

Criw o frodyr a chwiorydd yn paratoi gardd yr RTO ar gyfer tirlunio.

Brodyr a chwiorydd yn gweithio ar yr RTO

Am y rhesymau hyn, roedd Pwyllgor Ysgrifennu y Corff Llywodraethol eisiau symud y tîm cyfieithu i ardal ble roedd Tojolabal yn cael ei siarad. I wneud hyn, penderfynodd y gangen i brynu adeilad a’i adnewyddu. Roedd hyn yn rhatach nag adeiladu neu rentu swyddfeydd.

RTO Tojolabal ym Mecsico wedi ei gwblhau.

Mae un cyfieithydd yn esbonio sut mae wedi elwa: “Yn y deng mlynedd dw i wedi gweithio fel cyfieithydd yn y gangen, wnes i ddim cwrdd â’r un teulu yn yr ardal oedd yn siarad fy iaith. Mae ein swyddfa nawr yng nghanol yr ardal ble mae Tojolabal yn cael ei siarad. Dw i’n sgwrsio â siaradwyr Tojolabal bob dydd. Mae hyn wedi ehangu fy ngeirfa a gwella ansawdd fy ngwaith.”

Swyddfa gyfieithu Tojolabal cyn ei hadnewyddu ac ar ôl iddi gael ei gorffen

Prosiectau ar Gyfer Blwyddyn Wasanaeth 2021

Os ydy amgylchiadau yn caniatáu yn ystod blwyddyn wasanaeth 2021, mae yna gynlluniau i weithio ar 75 RTO ac adeiladau ysgolion Beiblaidd. Bydd gwaith yn parhau ar wyth prosiect mawr cangen, gan gynnwys prosiect newydd y pencadlys yn Ramapo, Efrog Newydd, yn ogystal â symud y canghennau yn yr Ariannin a’r Eidal. Ar ben hynny, mae angen adeiladu mwy na 1,000 o Neuaddau’r Deyrnas newydd, mae angen amnewid mwy na 6,000 o addoldai sydd ar hyn o bryd yn anaddas, ac mae angen adnewyddu 4,000 o Neuaddau’r Deyrnas eraill.

Collage: Graff yn dangos faint o Neuaddau’r Deyrnas sydd eu hangen ar hyn o bryd, a faint sydd eu hangen ar gyfer tyfiant yn y dyfodol. 1. Neuaddau’r Deyrnas newydd sydd eu hangen: 1,179; Addoldai i’w hamnewid: 1,367; Neuaddau’r Deyrnas i’w hamnewid: 4,672; Cyfanswm: 7,218. 2. Prosiectau blynyddol Neuaddau’r Deyrnas newydd: 699; Prosiectau blynyddol adnewyddu Neuaddau’r Deyrnas: 2,028.

Sut mae’r holl waith adeiladu ac adnewyddu hyn yn cael ei ariannu? Gwnaeth y Brawd Lázaro González, aelod o Bwyllgor Cangen Canolbarth America, ateb y cwestiwn hwn wrth drafod prosiect Swyddfa Gyfieithu Tojolabal. “Yn nhiriogaeth ein cangen, ’dyn ni’n brin o adnoddau. Felly heb gymorth y frawdoliaeth gyfan, byddai’n amhosib adeiladu swyddfeydd cyfieithu i’n cyd-gredinwyr brodorol. Mae’r arian a roddwyd gan frodyr ledled y byd wedi gwneud hi’n bosib i gyfieithwyr symud yn agosach i gymunedau ble mae eu hieithoedd yn cael eu siarad. ’Dyn ni wir yn ddiolch i’n brawdoliaeth fyd-eang am eu cefnogaeth hael.” Yn wir, mae’r prosiectau adeiladu hyn yn bosib diolch i’ch cyfraniadau chi i’r gwaith byd-eang, sy’n dod yn aml trwy donate.jw.org.

a Mae Adrannau Dylunio ac Adeiladu’r Canghennau yn cynllunio ac yna’n mynd ati i adeiladu Neuaddau’r Deyrnas yn nhiriogaeth eu canghennau. Mae’r Adran Dylunio ac Adeiladu Byd-Eang, yn y pencadlys, yn blaenoriaethu a chydlynu prosiectau adeiladu drwy’r byd.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu